Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiadau o werthusiad lefel rhaglen o'r Gronfa Iach ac Egnïol sy'n asesu ei gynaliadwyedd a'i etifeddiaeth fwy na 12 mis wedi i'r cyllid ddod i ben.

Dyfarnodd y Gronfa Iach ac Egnïol (2019 i 2023) £5.85 miliwn i 17 o brosiectau ar draws Cymru. Nod y rhaglen oedd gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol cyfranogwyr trwy gefnogi ffyrdd o fyw egnïol. Cafodd ei darparu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r adroddiad hwn yn darparu canfyddiadau o werthusiad ar lefel rhaglen a gynhaliwyd gan UK Research & Consultancy Services Ltd (UKRCS) – dilyniant i'r prif werthusiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024.

Mae'r adroddiad yn asesu cynaliadwyedd ac etifeddiaeth y Gronfa fwy na 12 mis ar ôl i'r cyllid ddod i ben. Mae’r canfyddiadau’n cynnwys:

Newidiadau cadarnhaol mewn cynaliadwyedd ar lefel prosiect o ran newid ymddygiad, cyllid pellach, effaith sefydliadol a dylanwad polisi.

Mae hefyd yn dangos bod llawer wedi’i ddysgu o’r Gronfa o ran ymgysylltu â'r gymuned, cyrraedd grwpiau ymylol, modelau cyflawni, ac arloesi digidol.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 974 KB

PDF
974 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.