Sicrhau’r Gwaddol Cynaliadwyedd a Dysgu yn y Gronfa Iach ac Egnïol: crynodeb
Canfyddiadau o werthusiad lefel rhaglen o'r Gronfa Iach ac Egnïol sy'n asesu ei gynaliadwyedd a'i etifeddiaeth fwy na 12 mis wedi i'r cyllid ddod i ben.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Roedd y Gronfa Iach ac Egnïol yn Rhaglen £5.9miliwn a ariannodd 17 Prosiect amrywiol a chymunedol i raddau helaeth ledled Cymru rhwng 2019 a 2023. Nod y gronfa oedd ymchwilio ystod o wahanol ffyrdd i gynorthwyo pobl mewn grwpiau targed allweddol i hybu eu hiechyd meddwl a chorfforol drwy fod yn iach ac yn egnïol. Sefydlwyd y gronfa Iach ac Egnïol, a oedd yn rhan o’r Rhaglen Lywodraethu, mewn dau ymrwymiad Maniffesto ac roedd yn gydweithrediad arloesol rhwng pedwar partner cenedlaethol. Cafodd ei gwerthuso’n helaeth ar lefelau Rhaglen a Phrosiect, a darganfuwyd ar y cyfan ei bod wedi’i datblygu a’i gweithredu’n effeithiol (Evaluation of the Healthy and Active Fund RCS 2024).
Pan ddaeth y Gronfa Iach ac Egnïol i ben, cafodd RCS eu comisiynu ymhellach i werthuso ei ‘chynaliadwyedd’. Cyflawnwyd hyn ar lefel Rhaglen a Phrosiect, ac yn y ddau achos bu i’r gwerthusiad grybwyll fframweithiau cysyniadol a ffurfiwyd yn sgil adolygiadau helaeth o’r llenyddiaeth berthnasol. Cafodd ‘cynaliadwyedd’ ar gyfer Prosiectau ei asesu yn erbyn cyfres o gategorïau gan gynnwys newid ymddygiad mewn buddiolwyr, parhad ymdrechion gwirfoddolwyr a newidiadau polisi ar lefel leol. Ar gyfer y lefel Rhaglen, bu i ‘cynaliadwyedd’ ganolbwyntio ar faint a chymeriad dysgu a throsglwyddo polisi.
Bu rhywfaint o ffocws eisoes ar gynaliadwyedd yn y gwerthusiad hyd yma, ac roedd hwn yn llwyfan cryf i ddatblygu’r asesiad cynaliadwyedd ôl-Gronfa Iach ac Egnïol (Evaluation of the Healthy and Active Fund RCS 2024). Ar gyfer y gwerthusiad cynaliadwyedd dilynol hwn, bu inni gynnal cyfweliadau ychwanegol gyda gweithredwyr o’r holl Brosiectau a saith uwch weithredwr Rhaglen yn ystod hydref 2024 – dros flwyddyn ar ôl i gyllid y Gronfa Iach ac Egnïol ddod i ben. At hyn, bu inni gynnal adolygiad dogfennol ar lefel Prosiect a Rhaglen.
Prif ganfyddiadau
Cynaliadwyedd y prosiectau
Roedd tystiolaeth o gynaliadwyedd ledled y Prosiectau yn eu cyfanrwydd, a ledled pob un o’r prif fathau o gynaliadwyedd y gwnaethom asesu yn eu herbyn, gan gynnwys:
- newid ymddygiad parhaus gan y rheiny oedd yn cymryd rhan
- parhad o ran gweithgareddau o dan arweiniad gwirfoddolwyr
- o ganlyniad i COVID-19, cynhyrchwyd rhagor o ddeunydd ar-lein / ffisegol, sydd wedi cefnogi cynaliadwyedd nifer o weithgareddau
- datblygwyd hyfforddiant ardystiedig a heb ardystiad ac mae’n parhau i fod ar waith ar gyfer y rheiny sy’n cymryd rhan a’r ymarferwyr
- sicrhau bod y cyllid yn parhau
- datblygu sgiliau a newid ymddygiad gan weithlu’r mudiadau nawdd
- newid ymddygiad sefydliadol a ymgorfforodd dysgu a chyfrannu tuag at gynaliadwyedd
- newidiadau polisi a phrif ffrydio o fewn y mudiadau nawdd a hefyd mewn mudiadau partner
- ymgorffori gweithgareddau’r GIE wrth ddarparu gwasanaeth ehangach, neu lle’r oedd profiadau’r GIE yn agwedd allweddol o ran ffurf a chyfeiriad datblygu gwasanaeth yn y dyfodol gan fudiadau nawdd
- cyfraniadau tuag at ddatblygu polisi ehangach, yn enwedig y Fframwaith Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol
Bu i gynrychiolwyr y prosiect briodoli rhai buddion unigryw i’r GIE ymhlith nifer o raglenni eraill a ariennir yr oedden nhw wedi’u profi. Yn benodol, roedden nhw o’r farn fod y GIE wedi:
- galluogi i brosiectau presennol ddatblygu a chasglu data ar angen, er mwyn llywio ceisiadau pellach am gyllid grant
- darparu ysgogiad a sbardun ar gyfer datblygu mudiadau presennol
- darparu’r gallu i fodloni’r galw hysbys
- galluogi datblygu perthnasau cryfach gyda Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
- galluogi meithrin perthnasau cryfach ac ymddiriedaeth ar lefel leol gyda gwahanol bartneriaid ac i raddau a aeth y tu hwnt i ‘bartneriaethau arferol’
Dyma’r agweddau wnaeth alluogi’r lefel a’r ystod hyn o gynaliadwyedd yn ôl ein hasesiad:
- gofyniad cynnar y GIE i Brosiectau ddwyn i ystyriaeth a datgan eu hymagwedd tuag at gynaliadwyedd
- penderfynoldeb y Prosiectau i adael gwaddol cadarnhaol a pharhaol
- roedd y Gronfa Iach ac Egnïol yn canolbwyntio’n gryf ar ddeilliannau yn hytrach nac ar weithgareddau penodol yn unig. Gan hynny, roedd modd i brosiectau addasu eu huchelgeisiau yn ystod eu ‘teithiau’ cynaliadwyedd wrth iddyn nhw ennill profiad, ac, yn arbennig, wrth iddyn nhw addasu i amodau COVID-19 er mwyn llunio gwahanol ffyrdd o gyflawni eu hamcanion
- bu i brosiectau a wnaeth sefydlu trefniadau dysgu mewnol systematig elwa ohonynt yn sylweddol; roedd meddu ar rolau a chyfrifoldebau penodol ar gyfer dysgu yn alluogwr allweddol
- y ffocws ar gynaliadwyedd wrth gasglu tystiolaeth gwerthuso ac astudiaethau thematig y Rhaglen CIE.
Ar lefel rhaglen
Roedd yr holl weithredwyr ar lefel Rhaglen o’r farn bod y Gronfa Iach ac Egnïol wedi cynhyrchu dysgu sylweddol, fodd bynnag roedd y meysydd wnaethon nhw eu nodi yn amrywio.
Dyma’r meysydd dysgu pwysig a nodwyd gan y gweithredwyr lefel Rhaglen:
agweddau amrywiol o Reoli Rhaglen, gan gynnwys:
- y broses gydweithio rhwng y pedwar partner cenedlaethol
- rôl y dulliau damcaniaeth newid wrth grisialu a phennu strwythur a chyflwyniad y rhaglen
- pwysigrwydd cynllunio cylch bywyd y rhaglen gyfan, ac yn enwedig y cyfnod dirwyn i ben
- rôl y Swyddog Achos, a sut i fanteisio i’r eithaf ar hynny
- rheoli ac arwain y Rhaglen, a phwysigrwydd Rheolwr / Cyfarwyddwr Prosiect / Rhaglen ar y cyd â’r Uwch Swyddog Cyfrifol
- materion ynghylch rôl rhaglenni arbrofol a’u cysylltiad â chyfryngau polisi a llywodraeth eraill
- materion casglu data a gofynion
- y berthynas rhwng y Rhaglen a Phrosiectau, a’r ffordd orau o gyflawni cynaliadwyedd a dysgu gwerth chweil
Dysgu o’r prosiectau, gan gynnwys:
- ffyrdd y gallai asedau cymunedol helpu i gyflawni Presgripsiynu Cymdeithasol
- amrywiaeth o ddulliau cyflawni
- ffyrdd o ymwneud gyda grwpiau targed sy’n anodd eu cyrraedd
- gwell ddealltwriaeth o heriau casglu data, yn enwedig ceisio gwybodaeth gan unigolion bregus sy’n cymryd rhan neu mewn gweithgareddau untro
- cydnerthedd ymyriadau yn y gymuned er gwaethaf heriau COVID-19
- roedd mudiadau cydnerth ac a oedd wedi hen ennill eu plwyf yn fwy tebygol o gefnogi cynaliadwyedd. I’r gwrthwyneb, arweiniodd newidiadau rheolaidd o ran staff/hyrwyddwyr at ostyngiad o ran momentwm a rhannu gwybodaeth
- canfuwyd bod partneriaethau wedi’u strwythuro o amgylch amcanion cyffredin yn fwyaf effeithiol o ran cynaliadwyedd
- rhai o anawsterau cydweithio ar lefel leol o ran ‘ymuno’ ar draws ffiniau i gefnogi grwpiau targed cyffredin
- gwerth swyddog data wedi’i hyfforddi’n ganolog a wnaeth rannu dulliau a chymorth i’r rheiny ar lawr gwlad, gan alluogi prosesau casglu data credadwy a chynaliadwy ac ychwanegu sicrwydd at ‘brynu i mewn’ ymhlith partneriaid allweddol
- mae angen i raglenni o dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n ymdrin â buddiolwyr gydag anghenion cymhleth gynnig cyfuniad o gymorth gydag a heb dâl i sicrhau diogelu a gallu
- sut i gyfuno natur a thechnoleg yn effeithiol i gyrraedd a chyflwyno i grwpiau targed
- meithrin partneriaethau newydd a gwahanol, a sut i’w gwneud nhw’n effeithiol
Cafodd dau o’r tri phrif amod ar gyfer dysgu a throsglwyddo polisi llwyddiannus eu bodloni. Roedd dysgu gwerth ei rannu o Brosiectau a chnewyllyn o weithredwyr lefel Rhaglen oedd yn parhau a oedd yn fodlon ac, mewn rhai achosion, yn awyddus i gyfleu’r dysgu hwnnw. Roedd, fodd bynnag, absenoldeb amlwg o’r trydydd amod, sef llwybrau effeithiol y gellid trosglwyddo a gweithredu dysgu drwyddyn nhw.
Argymhellion
Dylai rhaglenni megis y GIE sydd â’r diben o ddysgu ac arbrofi drwy ariannu Prosiectau lluosog yn y tymor byr i ganolig:
- Ddatblygu dull eglur a thrylwyr o ran cynaliadwyedd yn gysylltiedig â lefelau Rhaglen a Phrosiect, yn ddelfrydol fel rhan o Gynllun MEALS (Monitro, Gwerthuso, Atebolrwydd, Dysgu a Chynaliadwyedd) hollgynhwysol (EvalCommunity).
- Meithrin ystyriaethau cynaliadwyedd ynghlwm â’u Cynllun Prosiect cyffredinol, gan gynnwys sut caiff cynaliadwyedd ei fonitro a’i hybu i’r eithaf yn ystod pob cam o gylch bywyd y Rhaglen, ac yn dilyn dirwyn y Rhaglen i ben os yn briodol.
- Nodi adnodd technegol a staff penodol a phriodol gyda chyfrifoldeb dros gywain a manteisio i’r eithaf ar gynaliadwyedd ym mhob agwedd.
- Nodi o’r cychwyn cyntaf y categorïau cynaliadwyedd posibl ar lefelau Rhaglen a Phrosiect, a theilwra monitro a chymorth i fanteisio i’r eithaf ar y categorïau hynny.
- Cynnig ystyriaethau penodol ynghylch sut gellir parhau gyda phrosiectau prawf ac arbrofol yn dilyn y rhaglen gyda chyllid llawer is a/neu gymorth wedi’i deilwra i adlewyrchu gweithgareddau parhaus a sefydledig yn hytrach na gweithgareddau arbrofol sydd angen llawer mwy o fuddsoddiad ymlaen llaw.
Yn fwy cyffredinol:
- Dylai Llywodraeth Cymru a’i Phartneriaid Cenedlaethol roi llwybrau mwy effeithiol ar waith y gellir trosglwyddo, ymhelaethu, cadw, rhannu a gweithredu dysgu drwyddyn nhw.
- Dylai Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid CIE adolygu a ydyn nhw’n manteisio i’r eithaf ar werth y rhaglenni gyda deilliannau dysgu cadarn fel rhan o ystyriaeth ehangach o’u trefniadau ar gyfer meithrin a rhannu cof sefydliadol.
- Mae’r diffyg ymddangosiadol o brosesau dysgu polisi mewnol, a gorddibyniaeth ar unigolion i ‘gludo’ cof sefydliadol, yn rhywbeth y dylai galwedigaeth polisi Llywodraeth Cymru fynd i’r afael ag ef efallai. Mae angen i Lywodraeth Cymru feddwl sut i gadw cof cyfundrefnol a sefydliadol drwy ymrwymo adnoddau penodol i ddiogelu gwaddol rhaglenni megis y GIE, a chynnig y rôl o sicrhau hyn i staff penodol a’u dwyn yn atebol am gyflawni hynny. Dylai fod pob prosiect arbrofol / prawf fel y GIE yn meddu ar ‘gynllun gwaddol’ wedi’i ategu gan ddamcaniaeth newid o’r cychwyn cyntaf.
- Dylai gweithredwyr allweddol ym mhob un o’r partneriaid cenedlaethol roi rhagor o ystyriaeth i sut gallan nhw hybu ymwybyddiaeth o a chwant ar gyfer y dysgu o’r GIE (a pholisïau/rhaglenni eraill).
Manylion cyswllt
Awduron: UK Research and Consultancy Services Ltd
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 26/2026
ISBN digidol 978-1-83715-971-0
