Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS 
  • Jeremy Miles AS 
  • Lynne Neagle AS 
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS 
  • Vikki Howells AS 
  • Sarah Murphy AS 
  • Jack Sargeant AS 

Ymddiheuriadau

  • Mark Drakeford AS 
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol 
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet 
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol 
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig 
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig 
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig 
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig 
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig 
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig 
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Helen Carey, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth 
  • Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd 
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid 
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Taryn Stephens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol (eitem 6)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 26 Ionawr 2026.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol

2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i'r Cabinet y byddai, yn y dyddiau nesaf, yn cyhoeddi penodiad Dr Melissa McCullough yn Gynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol, yn unol â'r ymrwymiad a wnaed yn ystod yr adolygiad diweddar o God y Gweinidogion.

2.2 Roedd gan Dr McCullough brofiad helaeth mewn moeseg a safonau proffesiynol yn y sector cyhoeddus, ar ôl gwasanaethu fel Comisiynydd Safonau i sawl deddfwrfa yn y DU ac Ynysoedd y Sianel. Byddai'n gyfrifol am ymchwilio i achosion o dorri Cod y Gweinidogion, ystyried buddiannau Gweinidogol, a rhoi cyngor i Weinidogion ar y Cod.

Rheolau Penodiadau Busnes

2.3 Amlinellodd y Prif Weinidog y rheolau penodiadau busnes a fyddai'n gymwys i Weinidogion sy'n gadael Llywodraeth Cymru, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes i ben ddiwedd 2025. 

2.4 Byddai'r dyletswyddau hyn bellach yn dod o fewn cylch gwaith y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol. Byddai'r rheolau yn adlewyrchu'r disgwyliadau blaenorol, a amlinellir yng Nghod y Gweinidogion. Yn hynny o beth, byddai hyn yn unol â'r rheolau sy'n gymwys i Lywodraethau eraill ledled y DU.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfod Llawn a nodwyd bod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion wedi'i ohirio, ac y disgwylid i'r amser pleidleisio ddydd Mawrth ddigwydd tua 4:10pm. Byddai Cyfnod 3 Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn dilyn, gyda phleidleisio drwy gydol y broses. Roedd yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 5:55pm ddydd Mercher. 

Eitem 4: Diweddariad Llafar – Cyflawniad Portffolio – Mwy o Gartrefi

4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ddiweddariad i'r Cabinet ar ddarparu mwy o gartrefi, cyn datganiad i'r Senedd drannoeth.

4.2 Rhagwelid y byddai'r Llywodraeth yn darparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd. Roedd hyn yn digwydd ar adeg pan oedd y sector adeiladu yn wynebu’r amodau mwyaf heriol ers cenhedlaeth, gan gynnwys canlyniadau'r pandemig ac effaith Brexit, ynghyd â lliniaru effeithiau llygru cyrsiau dŵr.

4.3 Dyma'r cyflenwad parhaus mwyaf o dai fforddiadwy yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd ac roedd prosiectau yn yr arfaeth hefyd i gynnal y cyflymder hwn yn y dyfodol. 

4.4 Ar hyn o bryd roedd gan y Llywodraeth 26 o safleoedd ar gael, yn cwmpasu mwy na 1,300 o erwau, ac roedd potensial i ddarparu tua 7,000 o gartrefi newydd.  Roedd contract eisoes gyda Barratt Redrow i gyflawni un o'r datblygiadau tai carbon sero net mwyaf yn y DU.  Byddai safle Fferm Cosmeston yn darparu 576 o gartrefi newydd a fyddai'n cyflawni carbon sero net drwy ddylunio a thechnolegau arloesol. Byddai 50% o'r rhain yn cael eu dynodi'n gartrefi fforddiadwy.

4.5 Er bod gan y Llywodraeth lai o ddulliau ar gael i sbarduno adeiladu tai yn y sector preifat, roedd mwy na 17,000 o gartrefi yn y sector preifat wedi'u cwblhau yng Nghymru ym mhedair blynedd gyntaf tymor y Llywodraeth hon, ac roedd y momentwm yn parhau.

4.6 Roedd Cymorth i Brynu - Cymru, yr oedd mwy na 70 o ddatblygwyr yn rhan ohono, wedi helpu dros 3,000 o bobl i brynu cartref newydd yn ystod cyfnod y Senedd bresennol, er gwaethaf y pwysau o ran costau byw.

4.7 Pan gyflwynwyd y Grant Cartrefi Gwag yn 2023, cydnabuwyd y byddai'n cymryd ychydig flynyddoedd iddo ennyn diddordeb ac i'r gwaith adfer gael ei gwblhau. Hyd yn hyn, roedd y gronfa wedi cael dros 1,200 o geisiadau dilys ac wedi helpu i ddod a mwy na 370 o eiddo yn ôl i gael eu defnyddio'n gartrefi, ac roedd llawer mwy ar y gweill. 

4.8 Roedd y Llywodraeth yn treialu dileu'r gofyniad cyllido 10% ar gyfer Awdurdodau Lleol yn 2026-27.

4.9 Roedd pob un o'r 22 Awdurdod Lleol wedi ymuno â Chynllun Lesio Cymru, a oedd yn annog landlordiaid preifat a pherchnogion cartrefi gwag i lesio eiddo i'w Cyngor priodol am hyd at 20 mlynedd, ac roedd mwy na 480 eiddo wedi'u cofrestru o dan y cynllun yn barod. 

4.10 Yn ogystal, roedd y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol yn darparu tai tymor hwy o ansawdd da yn gyflym. Mae'r Rhaglen hon wedi'i sefydlu i helpu i symud pobl allan o lety dros dro ac i gartrefi tymor hwy, mewn ymateb i bwysau cynyddol o ran tai. Dros y tair blynedd diwethaf, roedd y buddsoddiad wedi darparu dros 2,700 o gartrefi o ansawdd da, gan gynnwys mwy na 930 eiddo a oedd gynt yn wag.

4.11 Yn fwy cyffredinol, ar draws yr holl ymyriadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd 18,000 o bobl wedi cael eu symud allan o lety dros dro i lety hirdymor addas.

4.12 Roedd y partneriaid cyflenwi yn croesawu benthyciadau cost isel, ailgylchadwy, drwy'r benthyciadau Tir ar gyfer Tai a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a oedd yn helpu i sicrhau tir i ddarparu hyd at 7,400 o gartrefi neu i adeiladu dros 300 o gartrefi fforddiadwy newydd yn uniongyrchol. Roedd rhaglen ar y gweill hefyd i wneud gwelliannau i dros 4,000 o eiddo presennol.

4.13 Yn rhanbarthol, roedd ymgysylltu'n digwydd ag arweinwyr Tai mewn Awdurdodau Lleol a'u cymheiriaid o ran Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, drwy fyrddau crwn rheolaidd, i roi arweinyddiaeth ac ymrwymiad uniongyrchol i'w helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai a gweithio ar y cyd i ymateb i argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy.

4.14 Roedd cynnydd da yn cael ei wneud o ran nodi tir, rhoi adnoddau yn y system gynllunio, olrhain cynlluniau a darparu cymorth sgiliau.

4.15 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 5: Diweddariad Llafar – Paratoadau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

5.1 Rhoddodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar y paratoadau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

5.2 Roedd Cronfa Gymorth beilot wedi'i sefydlu i helpu cymunedau i baratoi digwyddiadau a gweithgareddau er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roedd 450 o geisiadau wedi dod i law a 100 o brosiectau wedi'u cymeradwyo, gan wneud cyfanswm a oedd yn werth £1.2m. Roedd y prosiectau llwyddiannus yn cynnwys ystod eang o sectorau a chymunedau ledled Cymru, gan adlewyrchu uchelgais ac amrywiaeth.

5.3 Roedd brand cyffredinol Dydd Gŵyl Dewi newydd wedi'i ddatblygu i roi undod i'r gweithgarwch, ac roedd pecyn cymorth brandio yn cael ei rannu â'r prosiectau a oedd yn cael eu hariannu. Yn ogystal, roedd seremoni Gwobrau Dewi Sant wedi cael ei symud ymlaen i 26 Chwefror i gyd-fynd â'r wythnos a oedd yn arwain at Ddydd Gŵyl Dewi.

5.4 O ran twristiaeth a hyrwyddo digidol, roedd adran bwrpasol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi wedi'i chreu ar wefan Croeso Cymru, a oedd yn galluogi sefydliadau i uwchlwytho digwyddiadau. Yn ogystal, roedd cynnwys yn cael ei adnewyddu ar draws Croeso Cymru, Visit Wales, a sianeli cyfryngau cymdeithasol i sicrhau'r cyrhaeddiad mwyaf posibl.

5.5 Roedd yr ymgyrch Pethau Bychain / Random Acts of Welshness, a oedd yn annog pobl i wneud pethau bach sy'n dathlu diwylliant, caredigrwydd a chymuned Cymru ledled y byd, yn cael ei chynnal am y bumed flwyddyn yn 2026.

5.6 Hefyd, byddai cyfres o ddathliadau i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, megis sioe arddangos yn Llundain a fyddai'n cynnwys cynhyrchwyr Cymreig, arddangosiadau a chyfleoedd blasu, ynghyd â digwyddiad Trafnidiaeth Cymru yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd ar 27 Chwefror. 

5.7 Byddai Cadw hefyd yn cynnig mynediad am ddim i'r cyhoedd i'w safleoedd ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan eu hannog i roi rhoddion i'w helusen ar gyfer y flwyddyn, Ambiwlans Awyr Cymru. 

5.8 Ar ben hynny, byddai Chwilio am y Pethau Bychain yn cael ei lansio a'i gynnal ym myd Minecraft yn Llys yr Esgob, Tyddewi. Byddai hwn yn brofiad dysgu diwylliannol cynhwysol yn seiliedig ar Minecraft; i annog pobl ifanc i ystyried sut y gallai gweithredoedd bach effeithio'n gadarnhaol ar gymunedau. 

5.9 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 6: Strategaeth 10 mlynedd ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol

6.1 Cyflwynodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar yr ymrwymiadau trawslywodraethol yn y Strategaeth 10 mlynedd ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol. 

6.2 Nod y Strategaeth oedd atal cam-drin plant yn rhywiol, sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn pan fo pryderon, a darparu cymorth i blant, teuluoedd ac oedolion sy'n oroeswyr-ddioddefwyr.

6.3 Wrth i'r Strategaeth gael ei datblygu, cafwyd ymgysylltu ar draws y Llywodraeth, gyda'r Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector yn ehangach, a chyda'r rhai sydd â phrofiad bywyd. Roedd barn y bobl yr oedd penderfyniadau'n effeithio arnynt wedi bod yn rhan sylfaenol o'r broses o ddatblygu'r Strategaeth. 

6.4 Trwy gydol y broses cyn ymgynghori, ymgysylltwyd â dros 100 o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys oedolion sy'n dioddefwyr-oroeswyr, a chafwyd 98 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2025. 

6.5 O ystyried y sensitifrwydd cynhenid sydd ynghlwm wrth drafod y pwnc hwn gyda phlant a phobl ifanc, comisiynwyd adolygiad cyflym o ymchwil fyd-eang o'r 5 mlynedd diwethaf, pan gynhwyswyd lleisiau plant a phobl ifanc. Roedd hon wedi bod yn broses gynhwysfawr a gynhaliwyd drwy gydgynhyrchu gwirioneddol.

6.6 Roedd cynnydd da wedi'i wneud eisoes o ran mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol yng Nghymru.  Rhwng 2019 a 2022 roedd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar waith, a oedd wedi datblygu'n llwyddiannus gyfoeth o adnoddau ar gyfer plant, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.  Roedd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol wedi bod yn ymwneud â gweithredu llwybr cenedlaethol ar gyfer mynd i'r afael ag ymddygiadau rhywiol niweidiol a ddangosir gan bobl ifanc, a hynny tuag at bobl ifanc eraill fel arfer. 

6.7 Mae'r Strategaeth hon yn adeiladu ar lwyddiant y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ac yn ymateb i adborth rhanddeiliaid ynghylch yr angen am ddull system gyfan tymor hwy a chynnwys cymorth i oedolion sy'n oroeswyr-ddioddefwyr.

6.8 Nod y Strategaeth, y cyntaf o'i math yn y DU, oedd creu gwlad lle roedd plant yn gallu byw yn rhydd rhag risg o niwed rhywiol, tra bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi drwy gydol eu hoes.

6.9 Byddai'r Strategaeth yn canolbwyntio ar gyflawni pedwar amcan allweddol.  Atal cam-drin plant yn rhywiol, amddiffyn plant pan fo pryderon am gam-drin plant yn rhywiol, cefnogi plant, rhieni / gofalwyr, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu i adfer, gan hefyd gefnogi oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr i adfer.

6.10 Byddai atal yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, meithrin hyder ac addysgu pobl ifanc, eu rhieni / gofalwyr, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o gam-drin plant yn rhywiol. Er enghraifft, sut mae'n ymddangos, sut i roi gwybod amdano i'r asiantaethau priodol, a gwella eu dealltwriaeth o berthnasoedd iach a datblygiad rhywiol iach. Roedd plant a phobl ifanc wedi nodi bod oedolion yn dal i'w chael yn anodd cael trafodaethau gyda nhw am y materion hanfodol hyn. Cydnabuwyd yr angen i fagu hyder yn ogystal â gwella gwybodaeth.

6.11 Roedd amddiffyn plant pan fo pryderon yn canolbwyntio ar wella'r ymateb amlasiantaeth i gam-drin plant yn rhywiol ar draws pob asiantaeth gan gynnwys addysg, yr heddlu, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau cymdeithasol plant.

6.12 Roedd sicrhau bod y gweithlu yn cael ei addysgu a'i gefnogi'n dda i ymateb i gam-drin a chefnogi plant a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt, yn floc adeiladu allweddol i gefnogi llwyddiant y Strategaeth. Byddai fframwaith hyfforddi ynghylch cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei ddatblygu. Byddai hyn yn sicrhau y byddai pob gweithiwr proffesiynol, waeth beth fo'u rôl, yn cael mynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i'w harfogi i amddiffyn a chefnogi a theimlo'n hyderus wrth ryngweithio â phlant a'u teuluoedd pan fo cam-drin wedi digwydd. Byddai'r fframwaith hwn hefyd yn addysgu gweithwyr proffesiynol ar y defnydd o ymatebion sy'n ystyriol o drawma, a oedd yn berthnasol wrth ymateb i bob math o gamdriniaeth ac esgeulustod a oedd yn ymwneud â phlant.

6.13 Roedd cam-drin plant yn rhywiol yn gymhleth ac roedd sawl gwedd iddo, felly roedd angen sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael mynediad at gyngor arbenigol pan fo angen.  Byddai cyflawni'r weledigaeth o greu Cymru lle mae plant yn ddiogel rhag niwed rhywiol yn cymryd amser. Yn anffodus, roedd llawer o blant a theuluoedd wedi cael eu heffeithio'n barod, a byddai nifer uchel o blant a theuluoedd yn parhau i gael eu heffeithio'n ddwfn gan gam-drin o'r fath. 

6.14 Gallai'r rhai a oedd wedi profi cam-drin, nad oeddent wedi cael y lefel angenrheidiol o gefnogaeth, ddioddef o gamddefnyddio sylweddau, diffyg hunan-ofal, problemau iechyd meddwl a llesiant meddyliol a chael perthnasoedd camdriniol. Amcangyfrif ceidwadol o'r gost i'r sector cyhoeddus yn sgil cam-drin plant yn rhywiol nad eir i'r afael ag ef oedd £1bn y flwyddyn.

6.15 Byddai angen i bobl gael mynediad at wasanaethau cymorth a oedd ar gael pan fo angen.

6.16 Byddai'r Strategaeth yn cael ei rhoi ar waith drwy Gynllun Cyflawni treigl tair blynedd, a fyddai'n cynnwys camau gweithredu blaenoriaeth a cherrig milltir allweddol. 

6.17 Croesawodd y Cabinet y papur gan gydnabod yr angen i gyhoeddi'r Strategaeth a'r Cynllun Cyflawni cyntaf cyn gynted â phosibl, o ystyried bod y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn amcangyfrif y byddai 25,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan ryw fath o gam-drin plant yn rhywiol bob blwyddyn. 

6.18 Cydnabuwyd pwysigrwydd gweithio trawslywodraethol, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid cyflawni megis y trydydd sector a llywodraeth leol.

6.19 Nodwyd y byddai canlyniad ac argymhellion Ymchwiliad Annibynnol Llywodraeth y DU i Gangiau Grŵmio yn cael eu hadlewyrchu mewn Cynlluniau Cyflawni yn y dyfodol.   

6.20 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai'r Strategaeth a'r Cynllun Cyflawni ar gyfer 2026-2029 yn cael eu lansio drwy Ddatganiad Ysgrifenedig.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2026