Eitem 3 ar yr agenda: Rhaglen waith
Mae'r papur hwn yn gofyn i aelodau Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus gytuno ar raglen waith fel y'i cynigiwyd gan ddetholiad o aelodau'r fforwm.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
1. Mae'r papur hwn yn gofyn i aelodau Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus gytuno ar raglen waith fel y'i cynigiwyd gan ddetholiad o aelodau'r Fforwm.
2. Cyfarfu nifer o gynrychiolwyr y Fforwm ar 19 Ionawr a chytuno ar gynigion ar gyfer ffrydiau gwaith i'w cyflwyno i brif gyfarfod y Fforwm i'w cytuno. Cytunwyd ar y ddau gynnig a nodir yn y papur hwn ac argymhellwyd creu gweithgor ar gyfer pob un.
Trafodaeth Grŵp Cwmpasu
3. Yn y cyfarfod ar 19 Ionawr, canolbwyntiodd y drafodaeth gychwynnol ar Drais yn y Gwaith. Rhannwyd safbwyntiau o bob rhan o'r sector cyhoeddus, gyda'r mudiad undebau llafur yn tynnu sylw at y gwaith parhaus i fynd i'r afael â'r mater. Rhoddodd y trafodaethau sylw i hollbresenoldeb y broblem a'r mesurau presennol sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â hi.
4. Yr ail ffrwd waith arfaethedig oedd i'r Fforwm edrych ar sut y gallai gefnogi’r bennod arweinyddiaeth yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP). Trafododd y grŵp ehangu'r elfen hon o'r ffrwd waith i gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ac i ganolbwyntio ar rwystrau i recriwtio a chynnydd.
Ffrydiau gwaith arfaethedig
Trais ac Aflonyddu yn y Gwaith
5. Cynigir y dylai Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus gytuno i ystyried a llunio canllawiau ar drais ac aflonyddu yn y gwaith (amddiffyn staff). Mae hyn yn cael ei brofi ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus gan y rhai mewn rolau sy'n wynebu'r cyhoedd a gall gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- gam-drin neu fygythiadau geiriol, gan gynnwys wyneb yn wyneb, ar-lein a thros y ffôn
- ymosodiadau corfforol
6. Mae rolau sy'n wynebu'r cyhoedd yn wynebu risg uwch oherwydd rhyngweithio rheolaidd â'r cyhoedd. Mae gan drais yn y gwaith oblygiadau difrifol, gan gynnwys achosi anafiadau corfforol difrifol ac effeithiau sylweddol ar iechyd meddwl, costau ariannol i sefydliadau yn sgil hawliadau cyfreithiol, absenoldeb staff a throsiant staff uchel. Yn y digwyddiad bord gron a gynhaliwyd ar 7 Ebrill, nodwyd hyn gan undebau llafur a chyflogwyr fel maes pryder sylweddol a ffrwd waith bosibl.
7. Mae ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle VAWDASV yn dymuno gweithio gyda Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i sicrhau bod gweithleoedd yn rhydd o drais. Nodwyd y byddai
"ymwreiddio mynd i'r afael â thrais yn y gwaith, sy'n aml yn cael ei brofi gan y rhai mewn rolau sy'n wynebu'r cyhoedd, yn agenda’r Fforwm yn ategu gwaith VAWDASV ac yn creu gwaith partneriaeth effeithiol i hysbysu, cydweithio a phrofi dulliau arfer gorau, gan roi gweledigaeth glir i dimau arwain yn y sector cyhoeddus eu bod yn atebol am arwain y newid yn sefydliadol.
8. Y cynnig yw sefydlu gweithgor i gwmpasu maint y broblem, adeiladu data ar arferion da a datblygu dulliau effeithiol o liniaru risgiau i weithwyr rheng flaen ar draws y sector cyhoeddus. Byddai hyn yn cynnwys asesu sut i safoni a lledaenu’r wybodaeth hon ledled Cymru.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
9. Yr uchelgais datganedig yn Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP) yw gwneud Cymru'n genedl sy'n arwain y ffordd ar gyfer cydraddoldeb hiliol. Mae'r bennod arwain yn seiliedig ar yr egwyddor o weithio gyda'n gilydd fel Un Sector Cyhoeddus yng Nghymru i rannu arferion da, meithrin dealltwriaeth a dysgu oddi wrth ein gilydd.
10. Gofynnir i'r Aelodau gytuno i barhau i ganolbwyntio ar gydraddoldeb drwy gytuno ar ffrwd waith sy'n cefnogi ArWAP ond sy'n cael ei hehangu o ran cwmpas i gynnwys grwpiau difreintiedig gan gynnwys: hil, anabledd ac anfanteision economaidd-gymdeithasol gyda ffocws ar recriwtio a dilyniant gyrfa. Cynigir y dylai’r ffrwd waith ystyried yr arfer presennol ar draws y sector cyhoeddus mewn perthynas â recriwtio, y rhwystrau canfyddedig, beth sy'n gweithio, pa wersi y gellid eu dysgu oddi wrth ein gilydd ac awgrymu dulliau newydd neu wahanol.
Angen penderfyniad
11. Gofynnir i'r aelodau gytuno ar y ffrydiau gwaith arfaethedig ac y bydd gweithgorau yn cael eu trefnu i hwyluso'r rhain.
12. Os cytunir i hyn, gofynnir i'r aelodau hefyd ystyried aelodaeth a chadeiryddiaeth y gweithgorau.
