Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a methodoleg

Comisiynwyd Arad gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad ffurfiannol pedair blynedd o weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae tri adroddiad eisoes wedi'u cyhoeddi fel rhan o'r gwerthusiad:

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil ansoddol gydag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), lleoliadau blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach (SABau), awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol (BILl). Mae hefyd yn cyflwyno canfyddiadau gwaith maes gyda dysgwyr ag ADY a rhieni/gofalwyr dysgwyr ag ADY (defnyddir y term "rhieni" yn yr adroddiad hwn i ddisgrifio ymatebwyr â chyfrifoldeb rhieni h.y. rhieni a gofalwyr). 

Methodoleg 

Cafodd canllawiau trafod ar gyfer cynrychiolwyr gwahanol sectorau, dysgwyr a rhieni eu cynllunio yn seiliedig ar y theori newid ar gyfer y system ADY, a nodir yn yr adroddiad cwmpasu ar gyfer y gwerthusiad. Dewiswyd chwe ardal awdurdod lleol i'w cynnwys yn y sampl astudiaethau ardal, yn seiliedig ar wahanol feini prawf daearyddol a chymdeithasol-ddemograffig. 

Ar draws y chwe maes, cynhaliwyd gwaith maes rhwng Chwefror a Rhagfyr 2024 gyda chyfanswm o 93 o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol yn cynrychioli ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, UCDau, SABau, awdurdodau lleol a BILlau, gan gynnwys:

  • cyfanswm o 35 o uwch arweinwyr, Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADYau), ymarferwyr a staff cymorth ar draws cyfanswm o 16 ysgol a 3 UCD 
  • 8 o uwch arweinyddion, CADYau, ymarferwyr a staff cymorth mewn 6 SAB
  • 6 ymarferydd mewn 6 lleoliad blynyddoedd cynnar nas cynhelir 
  • 27 o weithwyr proffesiynol ar draws 6 awdurdod lleol 
  • 17 o weithwyr proffesiynol ar draws 5 bwrdd iechyd lleol

Roedd cyfranogwyr yn y gwaith ymchwil yn gweithio yn ardaloedd y chwe awdurdod lleol yn bennaf, er bod rhai o’r cyfranogwyr ymchwil yn gweithio ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol (e.e. y rhai mewn SABau a BILlau).

Ym mis Mehefin a Gorffennaf 2025, cymerodd cyfanswm o 31 o ddysgwyr Blynyddoedd 6-14 ran mewn grwpiau trafod bychain. Roedd y dysgwyr hyn yn cynrychioli 9 lleoliad mewn 5 o'r 6 awdurdod lleol a ddewiswyd ar gyfer yr ymchwil. Rhwng Tachwedd 2025 a Chwefror 2026, cymerodd cyfanswm o 9 rhiant ar draws 4 o'r 6 awdurdod lleol ran mewn cyfweliadau.

Mabwysiadwyd dull thematig ar gyfer dadansoddi nodiadau’r cyfweliadau. Mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y themâu a oedd wedi codi amlaf yn ystod y broses ddadansoddi. 

Nodyn ar ddehongli’r canfyddiadau

Mae'r ymchwil yn seiliedig ar samplau cymharol fach o gyfranogwyr a gytunodd i/a fynegodd ddiddordeb mewn cymryd rhan, sy'n golygu nad yw'r canlyniadau yn ystadegol gadarn ac na ellir eu cyffredinoli i'r boblogaeth. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddata hunan-adroddedig a safbwyntiau goddrychol cyfranogwyr, er enghraifft o'r hyn yr oeddent yn ei ystyried yn gweithio'n dda neu'n llai da wrth weithredu'r system ADY, yn hytrach na mesurau mwy systematig, gwrthrychol ac wedi’u dilysu. 

Mae hefyd yn bwysig ystyried nad oedd pob cyfwelydd wedi cyflwyno sylwadau ar yr holl faterion a drafodwyd yn yr adroddiad. Mae hyn yn golygu, os yw'r rhan fwyaf o gyfwelwyr yn nodi eu bod yn teimlo bod agwedd ar y system yn gweithio'n dda, nid yw o reidrwydd yn awgrymu bod rhai yn teimlo nad oedd yr agwedd hon ar y system yn gweithio'n dda. Dylid cadw hyn mewn cof wrth ddehongli'r canfyddiadau. 

Canfyddiadau: cynnydd cyffredinol o ran gweithredu'r system ADY

Ar draws y chwe ardal leol, mae'r canfyddiadau'n dangos bod cydweithio rhwng ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, o fewn ac ar draws sectorau, yn agwedd ar y system ADY yr ystyrir  oedd yn gweithio’n dda yn gyffredinol. Rhoddodd y cyfranogwyr enghreifftiau o hyn, gan gynnwys rhwydweithiau aml-asiantaeth, cydweithio rhwng awdurdodau lleol, SABau a BILlau a chydweithio rhwng CADYau o fewn ac ar draws clystyrau ysgolion.

Ystyriwyd bod ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person hefyd yn gweithio'n dda ac yn cael dylanwad cadarnhaol ar berthnasoedd rhwng ysgolion, dysgwyr a rhieni ac yn creu system fwy cynhwysol.

Adroddodd cyfranogwyr fod systemau i gefnogi'r gwaith o weithredu'r diwygiadau ADY (e.e. systemau CDU ar-lein, ffurflenni a/neu dempledi safonol, dysgu proffesiynol i staff, cyfarfodydd rhwydwaith neu banel rheolaidd) yn cyfrannu at well ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r system ADY.

Adroddwyd bod pwysau ar staff a chapasiti sefydliadol i weithredu'r system ADY gan bron pob cyfranogwr. Priodolwyd y pwysau hyn yn bennaf i heriau yn gysylltiedig â chyllid a llwythi gwaith cynyddol o ganlyniad i weithredu'r system ADY.

Adroddwyd bod cwrdd â therfynau amser statudol yn her mewn rhai achosion, yn enwedig wrth sicrhau mewnbwn yr holl ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol o fewn y terfynau amser. 

Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) a phrosesau cynllunio

Ar draws yr ardaloedd a'r sectorau, croesawyd ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyffredinol fel ffordd o gynnwys dysgwyr mewn trafodaethau ynghylch eu hanghenion a’r cyfle i’w cynnwys mewn ffordd ystyrlon wrth ddatblygu CDUau. 

Amlygodd cynrychiolwyr o bob sector y ffaith bod CDUau a phrosesau cynllunio wedi arwain at lwyth gwaith ychwanegol sylweddol i staff, gan gynnwys CADYau, ond heb ei gyfyngu i’r rhain yn unig.

Nodwyd bod ymgysylltu gweithwyr iechyd proffesiynol â phrosesau cynllunio CDU a chyfarfodydd ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn her benodol i unigolion ar draws yr holl sectorau, yn aml oherwydd cyfyngiadau amser a’u hargaeledd cyfyngedig.

Ymhlith cyfranogwyr o ysgolion a SABau, ystyriwyd bod CDUau yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod anghenion, deilliannau arfaethedig a dyheadau dysgwyr yn cael eu cofnodi mewn ffordd ystyrlon a holistaidd. Fodd bynnag, nodwyd pryderon ynglŷn ag amrywioldeb ansawdd CDUau gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol ac ysgolion. Roedd y pryderon hyn yn ymwneud yn bennaf ag anghysondebau wrth nodi ADY, DDdY ac, mewn rhai achosion, diffyg gwybodaeth mewn rhai CDUau ar y ffactorau cyd-destunol ehangach a oedd yn berthnasol i ddysgwyr ag anghenion mwy cymhleth. 

Roedd cyfranogwyr yn teimlo bod yr amser cyflwyno hir ar gyfer adolygiadau yn cynnig budd cadarnhaol i brosesau cynllunio.

Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDdY)

Ar draws pob maes, adroddodd cyfranogwyr o bob sector fod amrywiadau ac anghysondebau mewn dealltwriaeth a dehongliadau o DDdY, gan gynnwys DDdY a sicrhawyd gan gorff y GIG. Nododd cyfranogwyr y gallai'r amrywioldeb hwn effeithio ar ddulliau o sicrhau darpariaeth briodol a gosod targedau mewn CDUau. 

Adroddwyd bod cydweithio o fewn clystyrau a rhanbarthau i gytuno ar ddulliau cyson o ddiffinio a chyflwyno DDdY gan gyfranogwyr o bob sector. Nododd cynrychiolwyr ysgol a SABau y byddai canllawiau i egluro'r diffiniad o DDdY yn ddefnyddiol. 

Roedd cyfranogwyr o bob ardal awdurdod lleol yn teimlo bod digon o DDdY i ddiwallu'r rhan fwyaf o anghenion dysgwyr, er bod rhai cynrychiolwyr ysgol yn nodi bod cyllid a chyfyngiadau amser yn rhwystro eu gallu i gyflwyno DDdY sy'n gynhwysfawr ac yn ddigon aml. Nododd cynrychiolwyr BILl hefyd heriau wrth ddarparu DDdY trwy CAMHS a therapïau oherwydd problemau capasiti. Adroddodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac ysgolion bod heriau wrth gael mynediad at ddarpariaeth arbenigol i ddysgwyr sydd angen DDdY a chymorth mwy cymhleth.

Roedd cyfranogwyr o awdurdodau lleol, ysgolion a BILl yn gyffredinol yn teimlo bod digon o wybodaeth a sgiliau i gyflawni DDdY, gyda rhai awdurdodau lleol yn dynodi timau i oruchwylio DDdY a buddsoddi mewn dysgu proffesiynol i'w staff. 

O ran rhwystrau i gyflwyno DDdY, cyfeiriodd cyfranogwyr o ysgolion a SABau at fwy o lwyth gwaith, diffyg capasiti staff, ac amgylcheddau ffisegol annigonol. Nodwyd heriau hefyd ym mhob sector o ran sicrhau arbenigwyr cyfrwng Cymraeg i ddarparu DDdY, a allai arwain at annhegwch ymhlith dysgwyr. Nododd cynrychiolwyr o leoliadau blynyddoedd cynnar mai capasiti staff oedd eu prif her o ran darparu DDdY, oherwydd gofynion cymarebau staff-i-ddysgwyr.

Cydweithio a rhannu gwybodaeth

Yn gyffredinol, adroddodd cynrychiolwyr a gyfwelwyd ar draws y gwahanol sectorau bod cydweithio rhwng ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws gwahanol sectorau yn gweithio yn dda. Adroddodd cyfranogwyr bod rhai ffactorau yn hwyluso perthynas waith dda rhwng sectorau, gan gynnwys:

  • lefelau'r cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i ysgolion a SABau
  • cyflwyno rôl SACDA
  • paneli a fforymau blynyddoedd cynnar a oedd wedi cefnogi adnabod ADY yn gynnar
  • cyfleoedd i ysgolion rwydweithio ag ysgolion eraill
  • grwpiau llywio ôl-16
  • systemau rhannu data ar-lein effeithiol a allai helpu i egluro rolau, gwella ansawdd CDUau a helpu llif gwybodaeth rhwng ac o fewn sectorau. 

I'r gwrthwyneb, roedd ffactorau yr adroddwyd eu bod yn gweithredu fel rhwystrau i gydweithredu effeithiol rhwng sectorau yn cynnwys:

  • diffyg capasiti, yn enwedig ymhlith ymarferwyr BILl, i gyfrannu at CDUau neu fynychu cyfarfodydd ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • gwahanol ddehongliadau o'r diffiniad o DDdY rhwng sectorau
  • diffyg dulliau cyson, ar draws awdurdodau lleol yn arbennig
  • diffyg dealltwriaeth ymhlith ymarferwyr ysgol ynghylch y dyletswyddau sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau adran 20.

Cydweithio a rhannu gwybodaeth

Yn gyffredinol, adroddodd cynrychiolwyr a gyfwelwyd ar draws y gwahanol sectorau bod cydweithio rhwng ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws gwahanol sectorau yn gweithio yn dda. Adroddodd cyfranogwyr bod rhai ffactorau yn hwyluso perthynas waith dda rhwng sectorau, gan gynnwys:

  • lefelau'r cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i ysgolion a SABau
  • cyflwyno rôl SACDA
  • paneli a fforymau blynyddoedd cynnar a oedd wedi cefnogi adnabod ADY yn gynnar
  • cyfleoedd i ysgolion rwydweithio ag ysgolion eraill
  • grwpiau llywio ôl-16
  • systemau rhannu data ar-lein effeithiol a allai helpu i egluro rolau, gwella ansawdd CDUau a helpu llif gwybodaeth rhwng ac o fewn sectorau. 

I'r gwrthwyneb, roedd ffactorau yr adroddwyd eu bod yn gweithredu fel rhwystrau i gydweithredu effeithiol rhwng sectorau yn cynnwys:

  • diffyg capasiti, yn enwedig ymhlith ymarferwyr BILl, i gyfrannu at CDUau neu fynychu cyfarfodydd ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • gwahanol ddehongliadau o'r diffiniad o DDdY rhwng sectorau
  • diffyg dulliau cyson, ar draws awdurdodau lleol yn arbennig
  • diffyg dealltwriaeth ymhlith ymarferwyr ysgol ynghylch y dyletswyddau sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau adran 20.

Anghytundebau ac apeliadau

Adroddodd cyfranogwyr ar draws pob sector brofiadau cymysg mewn perthynas ag anghytundebau ac apeliadau. Nododd rhai cyfranogwyr fod cydweithio cynharach â theuluoedd wedi arwain at welliannau, tra bod eraill yn disgrifio cynnydd mewn anghydfodau ffurfiol, apeliadau a heriau cyfreithiol. Adroddwyd bod yr achosion hyn yn cymryd llawer o amser ac yn rhoi pwysau ar staff ac adnoddau, yn enwedig mewn meysydd lle roedd rhieni yn ceisio cynrychiolaeth gyfreithiol yn gynyddol. 

Roedd profiadau ysgolion a lleoliadau yn amrywio, gyda rhai yn datrys anghytundebau mewn ffordd anffurfiol, ac eraill yn wynebu beichiau emosiynol a gweinyddol sylweddol oherwydd apeliadau. Adroddodd cynrychiolwyr BILl hefyd eu bod yn cymryd rhan yn gynyddol mewn achosion tribiwnlys, yn aml mewn ymateb i adroddiadau gofal iechyd preifat. Fodd bynnag, roedd llawer yn teimlo ei bod yn dal yn rhy gynnar i adnabod tueddiadau clir mewn anghytundebau.

O ran yr hyn oedd yn achosi anghytundebau, cyfeiriodd cyfranogwyr at wahanol ddehongliadau o DDdY, disgwyliadau cynyddol rhieni a mwy o ddefnydd o gynrychiolaeth gyfreithiol. Roedd anghydfodau yn aml yn canolbwyntio ar benderfyniadau ynghylch math neu lefel y DDdY, lleoliad mewn darpariaeth arbenigol, a chynnwys CDUau. 

Mynegwyd pryder gan rai cynrychiolwyr ysgolion y gallai ofn achosion tribiwnlys arwain at gytuno ar CDUau yn ddianghenraid. Roedd camddealltwriaeth ynghylch yr hyn a nodir gan CDUau, megis tybiaethau rhieni ynghylch cyllid neu gymorth un-i-un yn cyfrannu at densiynau hefyd.

Mynegwyd pryderon gan staff byrddau iechyd ynghylch yr amser y mae prosesau cyfreithiol yn ei gymryd, a’r diffyg eglurder ynghylch eu rôl mewn apeliadau. Er gwaethaf yr heriau hyn, gwelwyd enghreifftiau o ddulliau mwy cydweithredol, yn enwedig lle’r oedd cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cefnogi deialog gynnar ac yn helpu i reoli disgwyliadau.

System ddwyieithog

Adroddodd rhan fwyaf yr ysgolion a’r lleoliadau cyfrwng Cymraeg sy’n gwasanaethu ardaloedd lle y ceir niferoedd mawr o deuluoedd sy’n siarad Cymraeg, bod ganddynt gapasiti digonol er mwyn gallu cyflwyno DDdY yn Gymraeg a diwallu anghenion eu dysgwyr. Adroddwyd rai heriau, yn benodol bod llai o adnoddau i gynorthwyo ymyriadau darllen a llythrennedd ac adnoddau i ddysgwyr sydd â dyslecsia.

Disgrifiodd awdurdodau lleol a BILlau eu hymdrechion i sicrhau bod ganddynt gapasiti dwyieithog digonol i ddiwallu anghenion dysgwyr, ond nodwyd ychydig brinder ganddynt. Adroddwyd am ddiffyg staff sy’n medru siarad Cymraeg mewn rhai sectorau, sef therapyddion iaith a lleferydd a seicolegwyr addysg yn benodol.

Nododd ysgolion cyfrwng Cymraeg a SABau nad oeddent wedi cael ceisiadau am DDdY trwy gyfrwng y Gymraeg. Adroddodd rhai cynrychiolwyr AB bod ganddynt staff academaidd neu staff cymorth sy’n meddu ar y sgiliau Cymraeg er mwyn gallu cynnig cymorth i ddysgwyr sydd ag ADY, a nododd eraill heriau yr oeddent wedi dod ar eu traws wrth geisio recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg, yn enwedig staff cymorth.

Ffactorau system ehangach

Adroddodd y sawl a gyfwelwyd bod costau ychwanegol ynghlwm â gweithredu’r system ADY, yn benodol ar gyfer penodi staff i weinyddu prosesau sy’n ymwneud â CDUau, rolau staff newydd, systemau CDU ar-lein a dysgu proffesiynol. Adroddodd ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a chynrychiolwyr SAB am gostau ychwanegol sy’n ymwneud â rhyddhau eu CADY i gyflawni gweithgareddau sy’n ymwneud â gweinyddu CDUau.

Roedd safbwyntiau cymysg ymhlith awdurdodau leol ac ysgolion ynghylch tryloywder prosesau ariannu. Roedd rhai yn teimlo bod mecanweithiau ariannu yn aneglur ac roedd eraill yn teimlo eu bod wedi dod yn fwy tryloyw.

Adroddodd cyfranogwyr ar draws pob sector eu bod wedi manteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol yn ymwneud â’r system ADY. Nododd cyfranogwyr feysydd i roi blaenoriaeth iddynt yn y dyfodol o ran dysgu proffesiynol, a oedd yn cynnwys hyfforddiant ynghylch diffiniadau o ADY a DDdY, ysgrifennu CDUau a hyfforddiant ynghylch mathau penodol o ADY.

Adroddodd cyfranogwyr nad oedd rhai dysgwyr oedd ag AAA dan y system flaenorol (gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy yn arbennig) wedi cael eu diffinio fel rhai sydd ag ADY dan y system newydd oherwydd bod ysgolion yn eu cynorthwyo trwy ddarpariaeth y byddai modd ei darparu fel arfer nawr (y cyfeiriwyd ati yn aml fel darpariaeth ‘gyffredinol’).

Adroddodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol, ysgolion a’r blynyddoedd cynnar bod y diwygiadau ADY ac i’r cwricwlwm yn cyd-fynd o ran eu hethos a’u nodau, yn enwedig y ffocws ar ddysgu unigoledig a dulliau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Fodd bynnag, roedd cyfranogwyr yn teimlo ei bod hi’n anodd cyflawni nodau’r ddau ddiwygiad yn ymarferol, oherwydd diffyg capasiti staff.

Safbwyntiau dysgwyr

Yn gyffredinol, roedd gan ddysgwyr safbwyntiau cadarnhaol am eu profiadau yn yr ysgol neu’r coleg, gyda’r rhan fwyaf yn adrodd eu bod yn mwynhau’r ysgol neu’r coleg ac yn teimlo eu bod yn dysgu pethau newydd ac yn sicrhau cynnydd gyda’u dysgu. Roedd gan ddysgwyr uwchradd safbwyntiau mwy cymysg na’r rhai mewn lleoliadau cynradd ac AB, ond roeddent wedi cynnig enghreifftiau o hyd o bethau y maent yn eu mwynhau yn yr ysgol. Yn gyffredinol, roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi’r help yr oeddent yn ei gael gan athrawon/staff ac roeddent yn mwynhau gwersi sydd â ffocws mwy ymarferol (e.e. coginio, gwaith coed, canu, drama a chelf).

Disgrifiodd dysgwyr sut y maent yn cael ystod eang o fathau o gymorth gyda’u dysgu, gan gynnwys cymorth un-i-un gan gynorthwyydd addysg, mynediad i fannau tawel, mynediad i staff neu i fannau i drafod unrhyw bryderon, dysgu mewn dosbarthiadau llai, sesiynau dysgu rheolaidd wedi’u teilwra neu eu targedu, dysgu yn yr awyr agored, teithiau ysgol ac adnoddau digidol. Yn gyffredinol, roedd dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt yn yr ysgol neu’r coleg.

Gallai nifer fach o ddysgwyr uwchradd a choleg gofio cyfarfod ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei gynnal. Yn gyffredinol, roedd y dysgwyr hynny yn teimlo bod rhywun wedi gwrando arnynt, gyda rhai yn cofio eu bod wedi cael mwy o help ar ôl y cyfarfod. Roedd nifer llai o ddysgwyr wedi cael profiadau llai cadarnhaol, megis athro heb fod yn mynychu’r cyfarfod fel y disgwyl, neu ddim newidiadau yn cael eu gwneud ar ôl y cyfarfod. Yn gyffredinol, adroddodd dysgwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael cymorth da a’u bod yn gallu troi at staff pe baent yn dymuno trafod unrhyw bryderon. 

Safbwyntiau rhieni

Adroddodd rhieni am amrywiad sylweddol yn eu profiadau o’r system ADY, gan amrywio o rai cadarnhaol iawn i rai heriol iawn. Er bod rhai rhieni wedi disgrifio perthnasoedd cryf gydag ysgolion a CADYau, yn enwedig mewn lleoliadau arbenigol lle’r oedd y cyfathrebu yn digwydd yn aml a’r gwaith cynllunio yn gyson, adroddodd eraill am oedi wrth sicrhau CDUau, ansicrwydd am brosesau a chynlluniau nad oeddent yn cofnodi anghenion eu plentyn yn llawn.

Yn yr un modd, roedd safbwyntiau am ansawdd CDUau a DDdY yn gymysg. Roedd nifer o rieni yn teimlo bod CDUau yn amwys, heb fod yn ddigon manwl, neu wedi cael eu siapio gan gyfyngiadau staffio ac adnoddau ysgolion yn hytrach nag anghenion y plentyn. Yn ogystal, mynegwyd pryderon gan rieni mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg am fynediad cyfyngedig i arbenigwyr sy’n siarad Cymraeg, gyda rhai yn adrodd bod y cymorth yn troi i’r Saesneg yn ddiofyn.

Roedd rhieni yn aml yn amlygu heriau o ran cyfathrebu a chydlynu, gydag ysgolion ac ar draws addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Disgrifiodd sawl un eu bod yn gorfod “pontio’r bylchau” rhwng gwasanaethau, gan brofi oedi wrth rannu gwybodaeth, neu orfod gofyn am wybodaeth dro ar ôl tro. Nododd rhieni anawsterau hefyd wrth ddefnyddio’r system ADY, a ystyriwyd yn gymhleth, ac nid oedd y ffaith bod dealltwriaeth staff ysgolion ohoni yn amrywiol yn helpu, ac adroddont am yr angen i ddarganfod gwybodaeth eu hunain. Dywedodd sawl un eu bod wedi dibynnu ar sefydliadau eiriolaeth i gael arweiniad a’u bod yn ddiolchgar am y cymorth a gawsant.

Camau nesaf

Mae ymchwil a gwaith maes pellach wedi'i gynllunio yn ystod camau nesaf y gwerthusiad. Bydd adroddiad sy'n cynnwys canfyddiadau ail don o ymchwil gydag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion, UCDau, lleoliadau blynyddoedd cynnar, SABau, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn cael ei gyhoeddi yn 2027.

Cyswllt

Awduron yr adroddiad: Hefin Thomas, Brett Duggan, Sioned Lewis, Jennifer Lane, Sam McAlister-Wilson, Anest Williams (Arad Research)

Barn yr ymchwilwyr yw barn yr ymchwilwyr ac nid o reidrwydd barn Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cangen Ymchwil Ysgolion
Yr Is-adran Ymchwil a Gwybodaeth Gymdeithasol Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: YmchwilYsgolion@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 52/2026
ISBN digidol: 978-1-83745-356-6

Image
Ymchwil Gymdeithasol Y Llywodraeth