Eitem 5 ar yr Agenda: Cofnod a materion sy'n codi
Mae'r papur hwn yn darparu copi o'r cofnod o gyfarfod blaenorol Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2025 a diweddariad ar statws y camau gweithredu sy'n codi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
1. Mae'r papur hwn yn darparu copi o'r cofnod o gyfarfod blaenorol Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2025 a diweddariad ar statws y camau gweithredu sy'n codi.
2. Mae pedwar cam gweithredu ar y gweill ar hyn o bryd. Mae manylion yn Atodiad 1 a chopi o'r cofnod blaenorol yn Atodiad 2.
Angen penderfyniad
3. Gofynnir i'r Fforwm gytuno ar statws y camau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd.
Atodiad 1: Camau gweithredu sy’n codi – 11 Tachwedd 2025
Eitem 2 ar yr Agenda - Pwrpas: Datganiad Cenhadaeth ac Egwyddorion
Cam gweithredu: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i wneud y newidiadau y cytunwyd arnynt i'r Datganiad Cenhadaeth a'r egwyddorion ac yna lanlwytho'r ddwy ddogfen i wefan y fforwm.
Arweinydd: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Mae'r newidiadau y gofynnwyd amdanynt wedi'u gwneud ac mae'r Datganiad Cenhadaeth a'r ddogfen egwyddorion wedi'u lanlwytho i wefan y fforwm.
Statws: Cyflawnwyd
Eitem 3 ar yr Agenda: cylch gorchwyl
Cam gweithredu: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i ddiwygio'r cylch gorchwyl ac yna trefnu iddo gael ei lanlwytho i wefan y fforwm.
Arweinydd: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Mae'r cylch gorchwyl wedi'i ddiwygio a'i lanlwytho i wefan y fforwm.
Statws: Cyflawnwyd
Eitem 4 ar yr Agenda: meysydd ffocws gwaith
Cam gweithredu 1: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan yr aelodau i fynychu cyfarfod i drafod meysydd ffocws ar gyfer rhaglen waith y fforwm.
Arweinydd: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Cynhaliwyd cyfarfod i drafod rhaglen waith y Fforwm ar 19 Ionawr 2026. Mae diweddariad ar drafodaethau wedi'i ddarparu ar gyfer y cyfarfod hwn o dan eitem 3 ar yr agenda.
Statws: Cyflawnwyd
Cam gweithredu 2: Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i ystyried unrhyw opsiynau o fewn eu rhwydweithiau ar gyfer treialu canllawiau AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a bwydo'r rhain yn ôl i'r Tîm Cymorth.
Arweinydd: Alodau Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Dîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus.
Statws: Parhaus
Eitem 5 ar yr Agenda: Partneriaeth Gymdeithasol sy'n Ymgysylltu ag Ymchwil
Cam gweithredu 1: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i gysylltu â gwahanol sefydliadau academaidd i sefydlu'r rhwydwaith gwybodaeth mewn ymgynghoriad â Dr Philippa Collins.
Arweinydd: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Ar y gweill, mae trafodaethau yn mynd rhagddynt.
Statws: Parhaus
Cam gweithredu 2: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i drefnu digwyddiad briffio yn y cnawd gydag aelodau'r rhwydwaith gwybodaeth a chynrychiolwyr y fforwm.
Arweinydd: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Mae'r rhain bellach yn digwydd fel trafodaethau ar-lein 1-1 yn lle hynny.
Statws: Disodlwyd
Eitem 6 ar yr Agenda: Gwefan a Chanolfan Adnoddau
Cam gweithredu 1: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i lanlwytho holl gytundebau ac adroddiadau blaenorol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i wefan newydd y fforwm.
Arweinydd: Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Mae holl gytundebau ac adroddiadau blaenorol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi'u lanlwytho i wefan y fforwm.
Statws: Cyflawnwyd
Cam gweithredu 2: Aelodau'r Fforwm i ystyried a oes angen tynnu unrhyw ddogfennau o'r safle maes o law. Byddai angen i Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus gytuno ar unrhyw beth a ddewisir.
Arweinydd: Aelodau Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus
Diweddariad: Mae hwn yn gam gweithredu tymor hwy i aelodau'r Fforwm ei ystyried wrth i'r Fforwm fynd rhagddo ac yn dilyn y lanlwytho a gofnodwyd yn y cam gweithredu blaenorol.
Statws: Parhaus
Eitem 7 ar yr Agenda: Cyfathrebu
Cam gweithredu: Dom Houlihan i drafod gydag Academi Cymru sut y gallent gefnogi negeseuon ac arferion gorau trwy'r sector cyhoeddus a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus.
Arweinydd: Dom Houlihan
Diweddariad: Mae swyddogion Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus wedi cwrdd ag Academi Cymru i drafod meysydd lle maen nhw’n gallu gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol, a lle gallant hyrwyddo gwaith y tîm arall lle bo hynny'n berthnasol. Byddant yn parhau â'r trafodaethau hyn wrth i Academi Cymru ddatblygu ei chynlluniau cyflawni ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Statws: Parhaus
