Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, ym mis Tachwedd ei bod yn bwriadu gosod Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 ym mis Mawrth 2026. Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad gefnogaeth eang i'r diwygiadau arfaethedig. 

Gosodwyd Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 ar 6 Mawrth 2026 ochr yn ochr â'r Memorandwm Esboniadol. Mae'r Rheoliadau yn gosod y gofynion statudol ar sut mae awdurdodau lleol yn cyllido ysgolion ac yn adrodd ar eu cyllideb addysg a'u gwariant. Byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2027, ac yn berthnasol i’r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2027 neu ar ôl hynny. Bydd hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ymgynghori a diweddaru unrhyw brosesau neu bolisïau.

Bydd y Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 yn disodli:

Nod y Rheoliadau yw gwneud y system yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel bod modd cynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel.