Uwchgynhadledd Gofal a Gynlluniwyd Effeithiol: 22 Hydref 2025
Dyma adroddiad cryno’r uwchgynhadledd weinidogol gofal a gynlluniwyd effeithiol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y cefndir
Daeth yr Uwchgynhadledd Weinidogol Gofal a Gynlluniwyd Effeithiol â byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, awdurdodau iechyd arbennig, Perfformiad a Gwella GIG Cymru a Llywodraeth Cymru ynghyd i rannu arferion gorau, mynd i'r afael â rhwystrau, a chytuno ar gamau gweithredu i wella mynediad at ofal a gynlluniwyd ar draws Cymru.
Tynnodd yr uwchgynhadledd sylw at y fframweithiau optimeiddio clinigol ac enghreifftiau o drawsnewidiad gwasanaethau sydd wedi'u rhoi ar waith mewn byrddau iechyd yng Nghymru. Mae cynnydd wedi'i wneud o ran lleihau’r niferoedd sy’n aros 2 ddwy flynedd, gyda gostyngiad o 88% wedi'i adrodd, ond mae angen gwelliannau pellach. Mae £120 miliwn ychwanegol o gyllid ar gael eleni i gyflymu'r cynnydd tuag at dargedau a sbarduno trawsnewid gwasanaethau erbyn mis Mawrth 2026, gan gynnwys:
- sicrhau nad oes neb yn aros 2 ddwy flynedd o gwbl, nid dim ond cyflawni hyn ar ddiwedd y flwyddyn
- darparu dros 200,000 o apwyntiadau cleifion allanol newydd, sy'n fwy na’r niferoedd blynyddol blaenorol
- sicrhau nad oes unrhyw glaf yn aros mwy nag wyth wythnos am driniaethau diagnostig
- darparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol, ar ben y 17,000 sy'n cael eu cyflawni
- trawsnewid gwasanaethau yn unol â disgwyliadau'r rhaglen gofal a gynlluniwyd
Trafodwyd y themâu canlynol:
- Symleiddio llwybrau, mynd i'r afael â heriau o ran cynhyrchiant, a lleihau amrywiad trwy drawsnewid gwasanaethau yn unol â'r rhaglen gofal a gynlluniwyd a gweithredu arferion gorau i wella capasiti gwasanaeth.
- Mynd i'r afael ag anghyfartaledd mewn mynediad at wasanaethau, profiad cleifion, a chanlyniadau i gleifion i sicrhau gofal teg ledled Cymru.
- Defnyddio datrysiadau digidol a data i gefnogi ymgyngoriadau rhithwir, monitro canlyniadau, lleihau amrywiad, ac ysgogi gwelliannau parhaus.
- Arfogi staff â sgiliau ac adnoddau modern i alluogi a gwella darpariaeth gofal o ansawdd, sy'n ddiogel ac yn effeithiol i gleifion, a sicrhau bod atgyfeiriadau yn glinigol briodol i gefnogi anghenion cleifion yn effeithiol.
- Cael cydweithrediad a mewnbwn gan arweinwyr clinigol, cynrychiolwyr CIN, gofal sylfaenol, rolau brysbennu a chynllunio swyddi strwythuredig ar draws disgyblaethau.
- Cefnogi poblogaeth Cymru i hunanreoli eu hiechyd ac i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal.
Myfyrdodau ar y system gofal a gynlluniwyd yng Nghymru
Anerchodd Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yr uwchgynhadledd drwy neges fideo wedi'i recordio ymlaen llaw.
Bu cynnydd digynsail yn y galw, gyda dros 1.6 miliwn o atgyfeiriadau newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 20% yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig. Mae gan fyrddau iechyd rôl hanfodol wrth lunio gofal iechyd yng Nghymru ac fe'u hanogwyd i adolygu llwybrau atgyfeirio, buddsoddi mewn cyngor a chanllawiau, a gwneud gwell defnydd o wasanaethau iechyd cymunedol i sicrhau bod cleifion yn cael gofal priodol yn y lleoliad iawn.
Anogwyd byrddau iechyd i gyflymu'r broses o weithredu modelau clinigol, symleiddio llwybrau cleifion, cynyddu capasiti, ac adolygu prosesau cyfredol i ddileu gwastraff a hybu cynhyrchiant. Dylai pob buddsoddiad a newid gweithredol ddarparu manteision clir i gleifion, staff a chymunedau. Nodwyd ei bod yn hanfodol cofleidio offer digidol a deallusrwydd artiffisial, gyda phob bwrdd yn cael eu hannog i rannu arferion gorau a chyfleoedd sy'n cael eu cymell gan dechnoleg i sicrhau mwy o effeithlonrwydd a gwell profiad i gleifion.
Cydnabuwyd bod hyrwyddo gwaith tîm a diwylliant cadarnhaol, agored, gan gynnwys gwrando'n astud ar adborth staff a chleifion, yn hanfodol ar gyfer gwelliant parhaus.
Gofal a gynlluniwyd effeithiol 2025 i 2026
Myfyriodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gofal a Gynlluniwyd Perfformiad a Gwella GIG Cymru bod y rhaglen gofal a gynlluniwyd effeithiol ar gyfer 2025 i 2026 yn canolbwyntio ar ymgorffori'r dulliau gorau posibl o ddarparu gofal a gynlluniwyd, gyda'r nod o ddarparu model gwasanaeth cynaliadwy, cynhyrchiol ac effeithlon ledled Cymru.
Yn unol â rhaglen 2025 i 2026, mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru a rhwydweithiau gweithredu clinigol cenedlaethol wedi datblygu cyfres o fframweithiau optimeiddio gwasanaethau. Mae'r fframweithiau hyn yn gweithredu fel canllawiau ymarferol i fyrddau iechyd a thimau clinigol asesu perfformiad yn erbyn arferion gorau cenedlaethol a rhyngwladol a nodi cryfderau a meysydd gwella o fewn eu gwasanaethau.
Mae'r camau galluogi, sydd wedi'u hintegreiddio i'r fframwaith cynllunio, yn cynnwys cyfanswm o 12 mesur, rhai yn canolbwyntio'n benodol ar weithredu yn y theatr ac mae'n ofynnol i fyrddau iechyd adrodd eu statws ar bob un. Nid yw'r camau hyn yn sefydlog a byddant yn esblygu wrth i ymarfer clinigol a blaenoriaethau newid.
Blaenoriaethau Gweinidogion Cymru ar gyfer gofal a gynlluniwyd
Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol bwysigrwydd yr uwchgynhadledd gan nodi ymrwymiad i ddileu amseroedd aros hir a gwella mynediad at driniaeth ar draws Cymru. Cydnabuwyd y gwnaed buddsoddiadau wedi'u targedu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ysgogi gwelliannau, ond mae angen gweithredu newid ar gyflymder o hyd i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am wasanaethau.
Mae newidiadau allweddol wedi'u nodi yn y fframwaith cynllunio a'r canllawiau rhwng atgyfeirio a thriniaeth i gefnogi'r GIG a'r rhai sy'n aros am ofal. Tynnwyd sylw at feysydd lle mae angen gwelliannau pellach, gan gynnwys yr angen am rai atgyfeiriadau at ofal eilaidd gyda data yn adlewyrchu bod hyd at 50% yn cael eu rhyddhau yn yr apwyntiad cleifion allanol cyntaf a'r angen parhaus i adolygu a gwneud y gorau o lwybrau atgyfeirio.
Mae gofal a gynlluniwyd cynaliadwy yn dibynnu ar reoli atgyfeiriadau'n effeithiol, wedi'i seilio ar yr egwyddorion craidd o ddarparu gofal yn agosach at y cartref a chynllunio gwasanaethau cymunedol. Lle bo hynny'n briodol yn glinigol, dylai cleifion gael eu trin gan eu meddyg teulu neu eu cefnogi trwy lwybrau amgen, yn hytrach na chael eu rhoi ar restrau aros. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen buddsoddi ymhellach mewn cyngor ac arweiniad, ochr yn ochr â mwy o ddefnydd o'r cannoedd o lwybrau iechyd cymunedol sydd ar gael ond nad ydynt yn cael eu defnyddio i'r eithaf ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd y dylai pawb gael gofal amserol, o ansawdd uchel wedi'i deilwra i'w hanghenion unigol. Er mwyn gwneud hyn yn realiti, rhaid i wella cynhyrchiant, lleihau amrywiaeth, trawsnewid gwasanaethau, cofleidio arloesedd, a meithrin diwylliant o welliant parhaus ddod yn arfer safonol, nid yn welliannau dewisol.
Cydnabuwyd bod arweinwyr clinigol yn arwain y datblygiad a chytunwyd ar fodelau gofal ar draws amrywiol arbenigeddau, gan adeiladu ar arferion sefydledig. Mae'r modelau hyn bellach yn barod i'w gweithredu ym mhob bwrdd iechyd.
Atgoffwyd mynychwyr bod yn rhaid cyflawni’r targedau cynhyrchiant uchelgeisiol a nodir yn y canllawiau cynllunio cenedlaethol, gyda chefnogaeth y galluogwyr o fewn y cynlluniau optimeiddio arbenigol. Daeth yr araith i ben drwy ailddatgan mai darparu gofal o fewn y gymuned yw'r dull diofyn i Gymru a phwysleisiodd yr angen am drawsnewid i sicrhau'r gofal gorau posibl i bawb.
Beth sy'n gweithio a pham?
Orthopedeg
Rhannodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eu trawsnewidiad i'w gwasanaethau orthopedig, gan gynnwys sut mae ad-drefnu wedi'i dargedu, gwelliannau sy'n seiliedig ar ddata a chydweithrediad amlddisgyblaethol wedi gweithio i fynd i'r afael â her hirsefydlog o fewn y gwasanaeth.
Dros y naw mis diwethaf, mae nifer y cleifion sy'n aros dros ddwy flynedd wedi gostwng dros 700 o gleifion, o frig o oddeutu 1,200, ac mae lefelau gweithgarwch wedi codi i 250 i 260 o achosion y mis. Mae cynhyrchiant wedi cynyddu, gyda phedair o driniaethau cymalau rheolaidd ar bob rhestr a tharged o 90% o sesiynau yn bodloni safonau ‘Cael Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf’ (GIRFT) yn y dyfodol, gan arwain at welliant disgwyliedig o 18% mewn cynhyrchiant.
Cataractau
Rhoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro drosolwg o'r ailgynllunio a weithredwyd o fewn eu gwasanaethau cataract, gan dynnu sylw at y dull strategol seiliedig ar dystiolaeth a gymerwyd i wella profiad cleifion a sicrhau cynaliadwyedd gofal o ansawdd uchel.
Mae'r gwasanaeth cataract wedi symud i Ysbyty Athrofaol Llandochau, gan greu canolfan gataract pwrpasol, cyfaint uchel, ar gyfer unrhyw gymhlethdod gyda chyfleusterau derbyn a theatr yn yr un lleoliad. Mae'r ganolfan newydd wedi ymgorffori argymhellion GIRFT ac arloesi digidol sy'n galluogi cyflwyno o leiaf saith o achosion ar bob rhestr, gan gynnwys llawdriniaethau cymhleth, heb gyfaddawdu ar ddiogelwch nac ansawdd, a brysbennu dros y ffôn dan arweiniad nyrsys a chryfhau cysylltiadau ag optometryddion gofal sylfaenol, lleihau atgyfeiriadau diangen a gwella parodrwydd ar gyfer llawdriniaeth.
Cynyddodd cynhyrchiant pob rhestr 55%, mae'r defnydd o theatrau wedi cynyddu 25%, a chanslo ar y diwrnod wedi gostwng 43% sydd wedi arwain at lai o amseroedd aros i gleifion a gwell boddhad staff. Adroddodd y bwrdd iechyd fod y model hwn bellach yn cael ei rannu'n rhanbarthol, gydag archwiliadau parhaus a gwaith cynllunio gweithlu i gynnal ac ehangu capasiti, gan anelu at sicrhau canolfan offthalmoleg bwrpasol a datblygu'r gweithlu ymhellach.
Ymagwedd at ddarparu gofal a gynlluniwyd yn effeithiol: ffocws ar weithredu
Gwella GIG Cymru yr heriau a'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gofal a gynlluniwyd yng Nghymru, gan nodi galw uchel, ôl-groniadau parhaus, ac aneffeithlonrwydd gweithredol. Roedd y dull yn pwysleisio strategaethau cydweithredol sy'n cael eu hysgogi gan ddata i alluogi trawsnewid cynaliadwy ac arferion gorau cyson ar draws byrddau iechyd.
Cyn y pandemig, roedd y rhan fwyaf o wasanaethau yn agos at y targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) o 36 wythnos. Ers hynny, mae atgyfeiriadau wedi cynyddu, gyda diffyg o 40,000 o apwyntiadau cleifion allanol mewn mis.
Mae rheoli atgyfeiriadau yn hanfodol; mae tystiolaeth yn dangos nad yw oddeutu 30% o atgyfeiriadau yn bodloni trothwyon gofal eilaidd. Argymhellir brysbennu proffesiynol, safonau atgyfeirio cenedlaethol, a chyngor a chanllawiau arferol gyda thaflenni optio i mewn i gefnogi dewisiadau gwybodus i gleifion. Cynghorwyd hefyd y dylid lleihau amrywiad rhwng adrannau a sicrhau bod gan glinigwyr amser brysbennu pwrpasol.
Gall dilysu rhestrau aros ailgyfeirio 20 i 40% o gleifion i lwybrau mwy addas, gyda gwiriadau parhaus o bosibl yn lleihau rhestrau cymaint ag 8% bob blwyddyn, fel y dangosir yn y gwaith a wnaed gan y GIG yn yr Alban. Mae mentrau eiddilwch a chyn-optimeiddio yn gwella canlyniadau drwy sgrinio a pharatoi cleifion, gan leihau llawdriniaethau diangen neu risg uchel.
Dylai optimeiddio llwybrau flaenoriaethu ymyriadau yn gynharach yn y broses, fel syth i brawf, cyngor ac arweiniad, a lleihau ymchwiliadau diangen er mwyn osgoi penderfyniadau cynnar gwael. Mae optimeiddio theatrau a hybiau llawfeddygol yn parhau i fod yn flaenoriaethau, gyda meini prawf achredu yn cael eu cwblhau. Bydd fframweithiau safonedig ac offer hunanasesu yn cefnogi gwelliant.
Mae trawsnewid cleifion allanol yn gyfle mawr, a gellir ei gyflawni trwy ddefnyddio gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, cysoni'r galw a'r capasiti, a chynllunio swyddi strwythuredig. Bydd menter mewnoli Llywodraeth Cymru i glirio'r ôl-groniadau presennol yn gweithredu i ailosod y system. Mae defnydd ehangach llwybrau Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) a Sylw yn ôl Symptomau (SOS), gor-archebu i gyd-fynd â chyfraddau absenoldeb, a thempledi clinig safonedig yn hanfodol, gan nodi y gallai ychwanegu un achos ym mhob clinig ddarparu 10,000 o apwyntiadau ychwanegol bob mis, a gallai gostyngiad mewn apwyntiadau dilynol o 30% ryddhau hyd at 738,000 o apwyntiadau bob blwyddyn.
Mae angen ymgysylltiad gweithredol gan fyrddau iechyd a thimau clinigol i leihau amrywiad diangen, ymgorffori llwybrau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a sicrhau atebolrwydd am welliannau cynaliadwy yn y dyfodol.
Cyflawni trawsnewid ar draws y bwrdd iechyd
Rhoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddiweddariad ar drawsnewid gofal a gynlluniwyd ar draws y bwrdd iechyd, gan dynnu sylw at ddull systematig sy'n seiliedig ar ddata. Mae eu gwaith wedi'i ategu gan fethodoleg sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddechrau gyda mapio llwybrau cleifion gan ddefnyddio fframwaith peirianneg systemau gofal iechyd. Mae hyn yn dadansoddi prosesau yn ficro-systemau a meso-systemau, wedi'u cefnogi gan adborth digidol ar gyfer gwelededd perfformiad amser real. Mae staff hefyd yn ymgymryd â hyfforddiant strwythuredig i sicrhau rheolaeth gyson, systematig.
Rhan allweddol o'r strategaeth yw defnyddio “siartiau ystadegau hanfodol” i olrhain metrigau fel y galw, gweithgarwch, a maint rhestrau aros ar lefelau cyffredinol ac is-arbenigedd sy'n galluogi cynllunio a dyrannu adnoddau yn fanwl gywir.
Mae ailgynllunio wedi'i dargedu wedi cyflawni cynnydd sylweddol fel cynnydd o 50% mewn cynhyrchiant cyn-asesiadau nyrsio, cynnydd o 30% mewn gweithgarwch achosion theatr ers mis Ionawr 2025, a chyfradd brosesu gynaecoleg bron wedi dyblu, a phob un o’r rhain wedi'u nodi ar ddangosfyrddau digidol. Gwelwyd llai o amseroedd aros hefyd mewn llawfeddygaeth gyffredinol a thrawma ac orthopaedeg, gyda chymorth mwy o weithgarwch a mega-glinigau.
Mae galluogwyr gweithredol yn cynnwys gwell llywodraethu, polisïau amserlennu effeithlon, hyfforddiant cynefino ar gyfer staff wedi'u mewnoli a staff ar gontractau allanol, dilysu cadarn i sicrhau angenrheidrwydd, ac archebu adnoddau digidol. Nodweddwyd y trawsnewid gan fethodoleg wyddonol, integreiddio digidol, a ffocws ar gynllunio amser real wedi'i ysgogi gan ddata, a gwell trefniadau monitro.
Trafodaeth gyffredinol ar ofal a gynlluniwyd effeithiol
Trwy gydol yr uwchgynhadledd ac yn ystod y drafodaeth grŵp, aethpwyd i'r afael â'r themâu a'r trafodaethau canlynol:
- goresgyn ymwrthedd a lleihau amrywiad diangen drwy ganolbwyntio ar lai o flaenoriaethau, wedi'u cyflawni'n dda, gan ddefnyddio polisïau ac arferion gorau, gydag arweinwyr clinigol yn cymryd rhan wrth gyd-greu cynlluniau.
- mae ymgysylltu ar gam cynnar â staff, cynllunwyr ac arweinwyr clinigol yn hanfodol i gysoni nodau cenedlaethol â chyflenwi lleol
- mae diogelu amser a chynllunio swyddi ar gyfer staff ac arweinwyr clinigol yn hanfodol ar gyfer ymgorffori gwaith cenedlaethol yn lleol ac ysgogi trawsnewid
- dylai cynllunio swyddi gynnwys pob grŵp proffesiynol, a rhaid datblygu seilwaith i gefnogi mynediad i gleifion
- mae angen newid dwfn, â ffocws a chysylltiadau cryf rhwng byrddau iechyd a CIN i sicrhau cydymffurfiaeth a lleihau amrywiadau
- mae pryderon yn bodoli ynglŷn â symud llwyth gwaith i ofal sylfaenol heb adnoddau cysylltiedig, trothwyon gorfodi, a llwyth gwaith cynyddol meddygon teulu o atgyfeiriadau a ddychwelwyd; mae arweinwyr gofal sylfaenol yn cymryd rhan weithredol wrth gynllunio, gyda phwyslais ar atgyfeiriadau electronig cyson a gwaith tîm
- cyflwyno llwybrau a systemau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gyfeirio cleifion i ffwrdd o ofal sylfaenol ac eilaidd
- mae timau digidol yn cefnogi clinigau rhithwir i wneud y gorau o amser staff, gan symud tuag at fethodoleg gyson ac alinio data ar draws Cymru
- mae cynnwys addysg cleifion a hunan-ofal mewn llwybrau gofal a gynlluniwyd yn helpu cleifion i wneud dewisiadau gwybodus ac yn lleihau apwyntiadau diangenm
- gwell cyfathrebu ac ymgysylltu â chleifion trwy fentrau fel ysgolion ar y cyd
- mae ymyrraeth gynnar, rheoli cydafiachedd, a chyn-optimeiddio wedi'i dargedu yn strategaethau i wella parodrwydd cleifion a lleihau cymhlethdodau
- defnyddir mesurau canlyniadau sy'n canolbwyntio ar gleifion ar gyfer llawdriniaeth cataract, gan gynnwys PROM a ffurflenni adborth QR
- mae canolbwyntio ar bob is-arbenigedd offthalmoleg yn bwysig, gyda grwpiau cyfeirio clinigol cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol
Edrych tua’r dyfodol: 2026 i 2027
Blaenoriaethau'r system ar gyfer 2026 i 2027 fydd atgyfnerthu cynnydd mewn gofal a gynlluniwyd ac ysgogi cynaliadwyedd. Bydd ymgorffori fframweithiau optimeiddio a chamau galluogi ar draws pob bwrdd iechyd yn hanfodol ar gyfer cynnal gwelliannau. Mae angen sicrhau cydweithredu parhaus rhwng rhaglenni cenedlaethol, byrddau iechyd, a rhwydweithiau clinigol i fynd i'r afael ag amrywiad diangen.
Rhaid canolbwyntio ar integreiddio digidol, gan gynnwys cyflwyno platfform cyn-asesu digidol i wella parodrwydd cleifion ar gyfer llawdriniaeth a symleiddio llwybrau. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd gwneud penderfyniadau sy'n cael eu cymell gan ddata; gwell codio clinigol wrth atgyfeirio a dadansoddeg rhagfynegol ar gyfer cynllunio gweithredol.
Trafodwyd cynllunio'r gweithlu, gan gynnwys cynllunio swyddi ar gyfer arweinwyr clinigol a sicrhau digon o amser ac adnoddau ar gyfer trawsnewid.
Edrych ymlaen a'r camau nesaf
Wrth gloi'r uwchgynhadledd, myfyriodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol bod cynnydd ystyrlon yn bosibl drwy sicrhau cydweithrediad cryf ymhlith rheolwyr, clinigwyr, a thimau amlddisgyblaethol, hyd yn oed heb gyllid newydd sylweddol.
Anogwyd cyfranogwyr i fynd â'r hyn a ddysgwyd gyda nhw, ymgysylltu'n weithredol â'r rhaglen gofal a gynlluniwyd, rhannu syniadau, a chanolbwyntio ar weithredu arferion gorau sefydledig, megis optimeiddio cyn-llawdriniaeth, gwell cyfathrebu arbenigol-gymunedol, llwybrau syth i brawf, a phrosesau apwyntiad dilynol effeithlon.
Ar ddiwedd yr uwchgynhadledd, gofynnwyd i bob bwrdd iechyd nodi pum maes gwella i'w cyflawni erbyn mis Mawrth 2026, gyda'r nod o ddarparu dull llwybr cyfan cynaliadwy yn unol â'r meysydd blaenoriaeth cenedlaethol ar gyfer gwella:
- rheoli atgyfeiriadau cadarn (efallai na fydd 30% yn cyrraedd y trothwyon)
- dilysu (20% i 40% wedi'u hailgyfeirio i lwybrau amgen)
- cyn‑optimeiddio
- llwybrau syth i brawf
- canolfannau llawfeddygol ac optimeiddio theatr
- modelau cleifion allanol gwell (defnydd o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, PIFU/SOS, gor-archebu yn cyd-fynd â niferoedd absenoldeb)
