Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Rhaglen Sgiliau Hyblyg i Gyflogwyr Mawr

3. Y sail gyfreithiol

Deddf Llywodraeth Cymru 2006, Adran 60 (1)

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Trwy weinyddu grant hyfforddiant hyblyg, ein cenhadaeth yw grymuso cyflogwyr mawr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, i uwchsgilio eu gweithluoedd er mwyn ysgogi gwell cynhyrchiant, effeithlonrwydd a phroffidioldeb, gan ddarparu budd economaidd parhaol i'r genedl.

Bydd hyn yn sicrhau rhagor o gymorth a chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a mentrau mawr (fel y'u diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006).

5. Diben y cynllun

Trwy weinyddu grant hyfforddiant hyblyg, bydd mentrau mawr yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gyllid a fydd yn eu grymuso i uwchsgilio eu gweithluoedd, er mwyn ysgogi gwell cynhyrchiant, effeithlonrwydd a phroffidioldeb, gan ddarparu budd economaidd parhaol i'r genedl.

Bydd cyllid ar gael i gyflogwyr yn y mwyafrif llethol o ddiwydiannau ledled Cymru. Mae'n rhaid i'r gweithrediadau a wneir gan y busnes fod yn gyfreithlon ac yn dderbyniol i Weinidogion Cymru.

Mae'r cyllid yn ddewisol a Llywodraeth Cymru sydd â’r gair olaf ynghylch cymhwystra.

Mae mentrau mawr preifat a'r trydydd sector, sydd wedi'u lleoli mewn unrhyw ardal yng Nghymru, yn gymwys i wneud cais am gymorth o dan y Cynllun. Gall cwmnïau weithredu mewn unrhyw sector diwydiant, cyn belled â'i fod yn gyfreithlon ac yn unol â blaenoriaethau Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar adeg gwneud cais am gymorth.

Bydd cyfradd ymyrraeth safonol o 50% yn gymwys i bob cyflogwr/menter, ni waeth beth fo'u maint, ac ni ddyfernir mwy na £3,000,000 fesul cyflogwr dros gyfnod o 3 blynedd ariannol yn olynol. Bydd pob cais am gymorth o dan y cynllun hwn yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun, ond ystyrir cost ac ansawdd cyffredinol yr hyfforddiant i'w gefnogi.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Gall cyflogwyr preifat a thrydydd sector sy'n gweithredu mewn unrhyw sector ac yn unrhyw ran o Gymru, sy'n dymuno uwchsgilio eu gweithwyr mewn meysydd technegol ac annhechnegol, wneud cais am y cymhorthdal. Rhaid iddynt fod yn fentrau mawr, fel y'u diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006.

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Gweithgarwch llety a gwasanaethau bwyd
  • Gweithgarwch gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  • Y celfyddydau, adloniant a hamdden
  • Adeiladu
  • Addysg
  • Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
  • Gweithgarwch ariannol ac yswiriant
  • Gweithgarwch iechyd pobl a gwaith cymdeithasol
  • Gwybodaeth a chyfathrebu
  • Gweithgynhyrchu
  • Gweithgarwch gan wasanaethau eraill
  • Gweithgarwch proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  • Gweithgarwch cyflenwi dŵr, carthffosiaeth, rheoli gwastraff a chyweirio

9. Hyd y cynllun

23 Chwefror 2026 tan 23 Chwefror 2031.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

Uchafswm y gyllideb dros oes y cynllun yw £25,000,000.

11. Ffurf y cymorth

Grant uniongyrchol

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Rhaid i unrhyw fenter sy'n gwneud cais am gymorth fod wedi'i lleoli yng Nghymru, fod yn ddiddyled, ac mae'n rhaid iddi ymrwymo i ryddhau staff i ymgymryd â'r hyfforddiant y gofynnwyd amdano.

Nid yw'n ofynnol defnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig. Fodd bynnag, rhaid i hyfforddiant â chymorth o dan y cynllun hwn fod naill ai wedi'i achredu neu fod o safon diwydiant cydnabyddedig.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Gwneir dyfarniadau ar gymhareb iawndal 50/50 â'r cwmni dan sylw, hyd at uchafswm o £3,000,000 fesul cyflogwr dros gyfnod o 3 blynedd ariannol yn olynol.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

Mae uchafswm o £3,000,000 fesul cyflogwr dros gyfnod o 3 blynedd ariannol yn olynol.

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm Sgiliau Hyblyg drwy e-bostio: dfesrm@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image