Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r crynodeb ymchwil hwn yn amlinellu'r arferion a fu'n fwyaf defnyddiol i ysgolion wrth weithredu'r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol.

Prif ganfyddiadau

Adroddodd ysgolion fod cyflwyno Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol yn broses hirdymor sy'n dibynnu ar: 

  •  arweinyddiaeth gref
  • cysylltiadau cadarnhaol 
  • ymgysylltiad cyson â'r ysgol gyfan

Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at yr enghreifftiau o ymarfer y mae ysgolion yn eu gweld fwyaf defnyddiol wrth ddatblygu a chynnal eu dull gweithredu.

Diwylliant ysgol cadarnhaol

Dywedodd ysgolion fod arweinyddiaeth glir yn hanfodol ar gyfer ymgorffori lles ar draws ymarfer dyddiol. Roedd arweinwyr a oedd yn ymddwyn yn gyson, yn cyfathrebu'n glir ac yn defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau yn helpu i gryfhau ymrwymiad yr ysgol gyfan. Roedd deall anghenion disgyblion, staff a theuluoedd hefyd yn cefnogi dulliau mwy ymatebol.

Cysylltiadau ar draws cymuned yr ysgol

Roedd cysylltiadau cryf yn cael eu hystyried yn ganolog i ddull gweithredu llwyddiannus. Adroddodd ysgolion fod sgyrsiau dyddiol, gwelededd staff a gwrando ar ddisgyblion wedi helpu disgyblion i deimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi. Roedd ymgysylltu â theuluoedd, gan gynnwys y rhai llai hyderus wrth fynd i'r ysgol, hefyd yn bwysig. Pan fo ysgolion yn meithrin cysylltiadau cymunedol ehangach, gwelwyd cynnydd yn eu gallu i gefnogi llesiant.

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm i Gymru

Esboniodd ysgolion fod llesiant yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei integreiddio i’r cwricwlwm ac amser addysgu. Roedd darparu cyfleoedd a phrofiadau ystyrlon wedi helpu i ehangu dyheadau dysgwyr a chefnogi pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae cydweithio o fewn clystyrau hefyd yn cefnogi dysgu cyffredin a dulliau cyson.

Llesiant staff

Roedd llesiant staff yn cael ei weld yn hanfodol. Dywedodd ysgolion bod staff a oedd yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, ac yn eu cefnogi a'u trin yn deg, yn gallu cefnogi disgyblion yn well a chyfrannu at amgylchedd gadarnhaol yn yr ysgol. Roedd gweithredoedd cyflym, ymarferol a newidiadau diwylliannol ehangach yn cael eu hystyried yn ddefnyddiol.

Ffactorau sy'n dylanwadu ar gyflawni

Tynnodd ysgolion sylw at heriau fel dosbarthiad anghyfartal o adnoddau, gwahaniaethau mewn iaith broffesiynol ac ymatebion amrywiol gan staff i ddulliau newydd. Mae'r ffactorau hyn yn dylanwadu ar ba mor hawdd y gallai ysgolion ymgorffori'r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol.

Adroddiadau

Crynodeb o ymchwil , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 321 KB

PDF
321 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Ysgolion

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.