Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwaith ymchwil ansoddol yn edrych ar sylwadau rhanddeiliaid ar weithredu’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae'r gwaith ymchwil hwn yn cynrychioli Ton 1 o'r ymchwil astudiaethau ardal. Dewiswyd chwe ardal awdurdod lleol i'w cynnwys yn y sampl astudiaethau ardal yn seiliedig ar wahanol feini prawf daearyddol a demograffig-gymdeithasol.
Yn y 6 awdurdod lleol hyn, roedd y gwaith maes yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mewn rhai awdurdodau lleol, roedd gwaith maes yn cynnwys nifer fach o gyfweliadau neu grwpiau ffocws gyda dysgwyr ag ADY a rhieni/gofalwyr dysgwyr ag ADY.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 635 KB
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
