Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau'r grŵp

  • Anwen Elias (Cadeirydd)
  • Mo Alamgir
  • Sarah Allan
  • Jess Blair
  • Mike Corcoran
  • Tomos Dafydd Davies
  • Sally Holland
  • Yvonne Murphy
  • Julie Sangani
  • Diana Stirbu
  • Daisy Thomson
  • Leanne Wood

Nad ydynt yn aelodau o'r grŵp

  • Eitem 3: Swyddogion yr Is-adran Addysg, Llywodraeth Cymru

Eitem 1: Gair o groeso a nodyn o’r cyfarfod blaenorol

1. Derbyniwyd bod y nodyn o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf yn gofnod cywir. Cytunodd yr aelodau i ddefnyddio Copilot yn y cyfarfod hwn i helpu i gymryd nodiadau.

Eitem 2: Arbenigedd aelodau’r grŵp

2. Rhannodd pob aelod ei gefndir a’i arbenigedd perthnasol mewn meysydd fel cyd-lunio, dulliau cyfranogol/cydgynghorol, ymgysylltu sefydliadol a seneddol, addysg ddemocrataidd greadigol a chyfranogiad ar lawr gwlad.

Eitem 3: Cwricwlwm i Gymru

3. Rhoddodd swyddogion addysg drosolwg o’r Cwricwlwm i Gymru, pedwar diben y Cwricwlwm, a’r pwyslais ar gynnydd dysgwyr.

4. Bydd cyrff cenedlaethol fel Adnodd (cwmni adnoddau addysgol) a’r corff dysgu proffesiynol newydd, Dysgu, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau a dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion. Amlygwyd bod cydweithio ag awdurdodau lleol yn bwysig er mwyn cefnogi ysgolion i gyflwyno’r cwricwlwm.

Eitem 4: Myfyrdodau

5. Myfyriodd y Grŵp ar yr eitem flaenorol a meysydd ar gyfer rhagor o wybodaeth ac archwilio.

Eitem 5: Rhaglen waith

6. Cytunwyd ar grynodeb o’r rhaglen waith gyda’r Dirprwy Brif Weinidog, gyda Datganiad Ysgrifenedig i’w gyhoeddi ar ôl y toriad. Bydd y grŵp yn blaenoriaethu’r hyn sydd i’w gyflawni o fewn yr amserlen fer, ar yr un pryd ag ystyried agenda hirdymor y tu hwnt i fis Mai 2026.

7. Roedd sesiwn dystiolaeth gyda rhanddeiliaid addysg ddemocrataidd wedi’i chynllunio ar gyfer cyfarfod o’r Grŵp ym mis Hydref, er mwyn meithrin dealltwriaeth o brofiadau cyfredol yng Nghymru. Cytunodd y grŵp i archwilio prosiect cyfranogol, gydag ymgysylltu ar draws y system er mwyn dangos ffordd newydd o weithio.

8. Cytunwyd i sefydlu is-grwpiau o’r Grŵp i ystyried addysg ddemocrataidd, a diwylliant cyfranogi.

9. Bu’r Grŵp yn trafod modelau ar gyfer asesu aeddfedrwydd cyfranogol a fframweithiau presennol Cymru (fel yr egwyddor cynnwys, matrics aeddfedrwydd cyfranogiad, Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, a’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol). Bu’r Grŵp yn trafod rhinwedd datblygu dangosyddion neu ddangosfyrddau cyhoeddus ar iechyd democratiaeth yng Nghymru.

Eitem 6: Y camau nesaf

10. Bu’r Grŵp yn trafod y camau nesaf ar gyfer y rhaglen waith, gan ganolbwyntio ar yr angen i is-grwpiau fynd i’r afael â meysydd allweddol:

  1. addysg ddemocrataidd a
  2. newid diwylliant ynghylch cyfranogiad a chydgynghori.

11. Adolygwyd trydedd elfen gwaith y Grŵp, sef y datganiad o egwyddorion a gwerthoedd cyfansoddiadol Cymru. Bydd ymchwil ar enghreifftiau rhyngwladol o gyfansoddiad cyfranogol yn cael ei gomisiynu, a bydd sesiwn dystiolaeth yn cael ei chynnal.