Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth: 3 Gorffennaf 2025
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth ar 3 Gorffennaf 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau'r grŵp
- Anwen Elias (Cadeirydd)
- Mo Alamgir
- Sarah Allan
- Jess Blair
- Mike Corcoran
- Tomos Dafydd Davies
- Sally Holland
- Yvonne Murphy
- Julie Sangani
- Diana Stirbu
- Daisy Thompson
- Leanne Wood
Nad ydynt yn aelodau o'r grŵp
- Swyddog Newid Ymddygiad Newid Hinsawdd ac Ymgysylltu, Llywodraeth Cymru
- Swyddogion Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Comisiwn y Senedd
Eitem 1: Gair o groeso a chyflwyniadau
1. Croesawyd yr aelodau i'r cyfarfod gan y Cadeirydd.
2. Cytunwyd y dylid mynd ar drywydd cyfleoedd i ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol drwy’r Senedd a’r Comisiwn Etholiadol.
Eitem 2: Newid Ymddygiad Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru
3. Cafodd y Grŵp gyflwyniad gan Lywodraeth Cymru, a thrafodwyd yr arferion gorau ar gyfer ymgysylltu â dinasyddion a dulliau cydgynghorol, gan gynnwys manteision ymuno ag ymarferion ymgysylltu eraill fel nad oedd yr un grwpiau’n cael ceisiadau i gyfrannu at nifer o ymgynghoriadau neu ddarnau ymgysylltu ar yr un pryd.
4. Bu’r Grŵp yn ystyried sefydlu rhwydwaith o ymarferwyr a llunwyr polisïau â diddordeb er mwyn rhannu gwersi ac osgoi dyblygu.
Eitem 3: Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r Senedd
5. Fe wnaeth swyddogion Comisiwn y Senedd amlinellu'r strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu ar gyfer 6ed tymor y Senedd, a chynlluniau’r Senedd ar gyfer datblygu’r strategaeth cyn 7fed tymor y Senedd.
6. Rhoddwyd crynodeb o wasanaeth addysg y Senedd a’u gwaith partneriaethol gyda sefydliadau allanol, a bu’r Grŵp yn trafod prosesau cyfranogol a chydgynghorol a sut gallai gwersi ac argymhellion y Grŵp gyfrannu at strategaeth 7fed tymor Comisiwn y Senedd.
Eitem 4: Myfyrdodau ar gyflwyniadau
7. Bu’r Grŵp yn myfyrio ar feithrin gallu yn Llywodraeth Cymru, ymrwymiad y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a llwybrau ar gyfer effaith y Grŵp.
8. Rhoddodd y Grŵp ystyriaeth i ymgysylltu y tu hwnt i’r grwpiau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgysylltu â nhw, a buont yn trafod pwysigrwydd nodi sut beth oedd ymgysylltu cydgynghorol da, a beth yw ei werth.
Eitem 5: Rhaglen waith
9. Bu’r Grŵp yn trafod ei raglen waith ddrafft gyda’r bwriad o gyflwyno’r rhaglen i’r Dirprwy Brif Weinidog.
Eitem 6: Unrhyw fater arall
10. Bu’r Grŵp yn trafod ffurfio is-grwpiau i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen waith ddrafft.
