Daeth yr ymgynghoriad i ben 13 Rhagfyr 2022.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus i gael eich barn am sut i gyflwyno’r newidiadau angenrheidiol er mwyn rhoi’r Ddyletswydd Gonestrwydd ar waith.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Dyletswydd Gonestrwydd yn golygu bod gan sefydliadau’r GIG ddyletswydd i fod yn agored ac yn onest â’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw os bydd pethau’n mynd o chwith a bod niwed yn digwydd.
Rydyn ni’n ymgynghori ar y canlynol:
- sut rydyn ni’n cyflwyno Dyletswydd Gonestrwydd i sefydliadau’r GIG drwy ganllawiau statudol a rheoliadau statudol newydd
- diwygio’r rheoliadau a’r canllawiau ‘Gweithio i Wella’ fel bod modd i’r Ddyletswydd Gonestrwydd integreiddio â nhw
Gwyliwch ein fideo am y Ddyletswydd Gonestrwydd.
