Arolwg Masnach Cymru peilot blwyddyn 6: hysbysiad preifatrwydd
Mae'n esbonio sut rydym yn defnyddio data a gesglir gan Arolwg Masnach Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb o’r arolwg
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu IFF Research i gynnal cynllun peilot ar gyfer chweched blwyddyn yr Arolwg Masnach Cymru (TSW). Nod y peilot hwn yw profi’r deunyddiau arolwg sydd wedi'u diweddaru, mireinio'r dull a ddefnyddiwyd yn y blynyddoedd blaenorol i wella'r TSW. Mae hyn yn ein helpu i wella ein dealltwriaeth o lifoedd masnach i mewn ac allan o weithrediadau busnes yng Nghymru ac yn cryfhau'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i bolisi masnach ac economaidd Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd IFF Research yn gweinyddu arolwg ar-lein gyda busnesau. Gellir defnyddio unrhyw ddata a gyflwynir i'r arolwg erbyn y dyddiad cau ar gyfer dadansoddi, hyd yn oed os nad ydych yn cwblhau pob cwestiwn.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o'r data a gesglir gan IFF Research.
Bydd canfyddiadau'r cynllun peilot hwn yn llywio esblygiad y TSW. Gellir cyhoeddi canlyniadau cryno neu fewnwelediadau o'r cynllun peilot ar wefan Llywodraeth Cymru, neu eu defnyddio mewn adroddiadau cyhoeddus i esbonio unrhyw newidiadau a wnaed i ddyluniad yr arolwg. Ni fydd unrhyw wybodaeth a allai adnabod busnes unigol yn cael ei chyhoeddi. Nid ydym byth yn rhannu nac yn defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn wirfoddol, ond mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig i lywio ymchwil a pholisi masnach Llywodraeth Cymru.
Cyswllt Ymchwil IFF: Eric Reynolds
Ebost: eric.reynolds@iffresearch.com
Pa ddata personol ydym ni’n ei ddal ac o ble gawn ni’r wybodaeth hon?
Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu enw eich cwmni a manylion cyswllt y cwmni i IFF Research, a ddaw o'r Gofrestr Fusnes Rhyng-adrannol (IDBR) y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae IFF wedi ysgrifennu atoch gan ddefnyddio'r manylion hyn gyda'r cyfarwyddiadau ar sut i gwblhau'r arolwg ar-lein (sy'n cynnwys cod unigryw ar gyfer eich cwmni).
Ni fydd cwblhau'r arolwg yn dal eich e-bost na'ch cyfeiriad IP. Fodd bynnag, hoffem allu cysylltu â chi eto am y rhesymau canlynol:
- Hoffai IFF Research ddilyn i fyny os oes unrhyw ymholiadau gyda'ch ymatebion i'r arolwg. Bydd hyn yn sicrhau bod y data mor gadarn â phosibl.
- Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ailgysylltu â chi yn ddiweddarach i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â masnach yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r wybodaeth a ddarperir yn Arolwg Masnach Cymru. Os ydych chi'n cytuno i gael eich ail-gysylltu at y diben hwn ac yna'n cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol, gallwch wrthod cymryd rhan ar y pwynt hwnnw.
Os hoffech gytuno i un neu'r ddau o'r uchod, yna mae'r arolwg yn rhoi cyfle i chi nodi'ch manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) yn ogystal â chadarnhau pa bwrpas rydych chi'n fodlon cael eich ailgysylltu ar eu cyfer. Os dewiswch ddarparu eich manylion cyswllt, byddai'n bosibl eich cysylltu â'ch ymatebion i'r arolwg ond, at ddiben llywio sampl o bobl ar gyfer yr ymchwil ddilynol yn unig y byddem yn gwneud hyn. Bydd eich ymatebion i'r arolwg yn cael eu hadrodd ar ffurf gyfanredol yn unig ac ni fydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr neu fusnesau unigol.
Er nad yw'n ddata personol, bydd unrhyw wybodaeth fasnachol a ddarperir gennych yn cael ei chadw yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig. Ni fydd unrhyw wybodaeth sy'n caniatáu i fusnesau unigol gael eu nodi yn cael ei gwneud yn gyhoeddus.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael nodiadau atgoffa, anfonwch e-bost TSW@iffresearch.com a bydd eich manylion yn cael eu tynnu.
Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol neu'r cyswllt yn IFF Research yn unig ac wedi hynny yn dileu'r data personol.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
- nodi a gwella anghenion cymorth busnes
- cefnogi cystadleurwydd a chynhyrchiant yng Nghymru
- cryfhau'r achos ar yr hyn sy'n bwysicaf i Gymru wrth drafod cytundebau masnach yn y dyfodol
- darparu gwell dealltwriaeth gyhoeddus o economi Cymru drwy helpu i wella a chreu ystadegau economaidd newydd
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a data ymchwil a ddarperir i IFF Research bob amser yn cael eu storio ar weinydd diogel, wedi'i leoli yn y DU. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd IFF Research yn defnyddio'r data hwn. Mae gan IFF Research ardystiad Cyber Essentials ac hefyd ac mae hefyd yn dal achrediad ISO/IEC 27001:2013 (y safon ryngwladol ar gyfer diogelwch gwybodaeth).
Wrth gynnal arolygon, mae IFF Research yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Merlin. Rydym wedi sicrhau bod Merlin yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn cwrdd â'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd.
Mae gan IFF Research weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod toriad yn digwydd, bydd hyn yn cael ei adrodd i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Mae unrhyw ddata personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn mae ffolder gyda mynediad wedi'i gyfyngu i'r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig. Bydd y data personol a ddarparwch yn cael ei storio yn y blygell gyfyngedig hon. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig.
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu dadansoddiadau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr neu fusnesau unigol. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd IFF Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd yr holl enwau a manylion cyswllt yn cael eu dileu o gofnodion IFF Research dri mis ar ôl dyddiad gorffen y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Ar gyfer blwyddyn 6 yr Arolwg Masnach i Gymru, bydd IFF Research yn darparu set ddata derfynol i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo a'i llofnodi erbyn mis Mawrth 2027, gan gynnwys unrhyw fanylion ailgyswllt a ddarparwyd yn ystod yr arolwg. Bydd Llywodraeth Cymru yn dileu unrhyw wybodaeth ailgyswllt o fewn tair blynedd ar ôl llofnodi set ddata. Ni fydd unrhyw wybodaeth sy'n caniatáu i fusnesau unigol gael eu nodi yn cael ei gwneud yn gyhoeddus.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel ymatebydd i Arolwg Masnach Cymru:
- i gael gafael ar gopi o'ch data eich hun
- er mwyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma’r manylion cysylltu ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y ffordd y bydd y data a rowch yn rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os ydych eisiau arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU, cysylltwch â:
Kate Mulready
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru ar:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
